Taith yr Haf: Samoa 17-19 Cymru

Rory Thornton Image copyright Huw Evans picture agency

Fe wnaeth Cymru ennill eu gêm olaf ar daith yr haf wedi iddyn nhw frwydro i drechu Samoa ar ddiwrnod gwlyb yn y brifddinas, Apia.

Aeth y tîm cartref ar y blaen yn gynnar yn y gêm wrth i'r asgellwr Alapati Leiua groesi yn y gornel.

Fe wnaeth Tusi Pisi ei throsi cyn ychwanegu cic gosb yn fuan wedi hynny.

Aeth Cymru ar y sgorfwrdd am y tro cyntaf gyda chic gosb gan Sam Davies, cyn iddo ychwanegu dwy arall i'w gwneud yn 10-9 ar yr egwyl.

Dau gais i Evans

Fe gafodd yr ymwelwyr ddechrau gwych i'r ail hanner wrth i'r asgellwr Steff Evans sgorio ei gais cyntaf dros Gymru i roi Cymru ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.

Ond roedd Samoa yn ôl ar y blaen yn fuan wedi hynny wrth i Pisi drosi cais y bachwr Manu Leiataua.

Sgoriodd Evans ei ail gais gyda phum munud yn weddill i roi mantais o ddau bwynt i Gymru yn y munudau olaf.

Mae'r canlyniad yn golygu y bu hi'n daith lwyddiannus i'r Cymry, wedi iddyn nhw drechu Tonga yn Auckland yr wythnos ddiwethaf.

Straeon perthnasol