Ymosodiad Finsbury Park: Cyhuddo dyn o Gaerdydd

Darren Osborne
Image caption Mae Darren Osborne yn byw yn ardal Pentwyn yng Nghaerdydd

Mae dyn o Gaerdydd wedi ei gyhuddo o droseddau'n ymwneud â therfysgaeth yn dilyn digwyddiad yn Llundain ddechrau'r wythnos.

Cafodd Darren Osborne ei arestio wedi'r digwyddiad yn Finsbury Park yn oriau mân bore Llun.

Mae wedi'i gyhuddo o droseddau'n ymwneud â therfysgaeth, gan gynnwys llofruddio a cheisio llofruddio.

Fe wnaeth Mr Osborne ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Gwener.

Mewn gwrandawiad pedwar munud, fe gadarnhaodd ei enw a'i ddyddiad geni, a dweud nad oedd ganddo gyfeiriad penodol.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa i ymddangos yn llys yr Old Bailey ddydd Mawrth.

Bu farw dyn 51 o ogledd Llundain, Makram Ali, ac anafwyd nifer wedi i fan gael ei gyrru i dorf o addolwyr Mwslemaidd yn yr ymosodiad.