Cyhoeddi gemau'r tymor nesaf yn Uwch Gynghrair Cymru

Seintiau Newydd Image copyright SNS
Image caption Mae'r Seintiau Newydd yn gobeithio ennill eu seithfed pencampwriaeth yn olynol

Mae gemau Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer y tymor nesaf wedi eu cyhoeddi, wrth i'r Seintiau Newydd geisio ennill eu seithfed bencampwriaeth yn olynol.

Bydd y gynghrair yn dechrau ar nos Wener, 11 Awst, pan fydd y pencampwyr yn teithio i Fangor.

Hefyd ar y noson agoriadol fe fydd Prestatyn yn croesawu Cei Connah yn eu gêm gyntaf ar ôl ennill dyrchafiad y tymor diwethaf, gyda'r Bala hefyd yn herio'r Drenewydd.

Y diwrnod canlynol bydd Derwyddon Cefn yn herio Met Caerdydd tra bydd Caerfyrddin yn teithio i Landudno.

Yn eu gêm gyntaf yn yr Uwch Gynghrair ers 2003, bydd Y Barri yn croesawu Aberystwyth ar ddydd Sul, 13 Awst.

Ymysg y gemau darbi traddodiadol ar Ŵyl San Steffan bydd Y Barri'n croesawu Met Caerdydd, Y Seintiau Newydd yn teithio i'r Drenewydd a Llandudno'n herio Bangor.

Mae manylion y gemau hyd at 13 Ionawr 2018 ar gael ar wefan yn gynghrair.