Cyfle i gamu yn ôl i'r Oesoedd Canol yng Nghonwy

paledu Image copyright Getty Images
Image caption Mae'n bosib y caiff ymwelwyr i Gastell Conwy dros y penwythnos gip ar rywfaint o baledu - neu jousting

Bydd cyfle i'r cyhoedd brofi bywyd fel oedd hi yn y cyfnod canoloesol yng Nghonwy dros y penwythnos, fel rhan o ymgyrch farchnata twristiaeth Llywodraeth Cymru.

'Chwedlau' yw'r thema eleni, a bydd yr ŵyl yn cynnwys dynion a merched wedi gwisgo fel brenhinoedd a breninesau, a marchnad yn y dref fydd yn adlewyrchu sut y byddai hi wedi bod dros 700 mlynedd yn ôl.

Bydd bwydydd, dillad a gemwaith o'r cyfnod hefyd ar gael yno.

Mae'r trefnwyr eisiau ail-greu agweddau eraill o fywyd pobl y cyfnod a bydd cyfle i'r cyhoedd ddysgu sut i wneud bwa, heboga a choginio, yn ogystal â gweld brwydrau paledu (jousting) yng Nghastell Conwy.

Bydd cerddoriaeth o'r cyfnod hefyd i'w glywed, a bydd cyfle i gael gwledd ganoloesol ar y dydd Sadwrn.