Apêl am wybodaeth wedi gwrthdrawiad 'difrifol' yn Sir Conwy

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad 'difrifol' ger Cerrigydrudion, Sir Conwy ddydd Sadwrn.

Cafodd yr Heddlu eu galw am 14:00 i wrthdrawiad rhwng car a beic modur ar y B4501.

Mae disgwyl i'r ffordd fod ar gau am beth amser.

Mae'r Heddlu'n gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw ar 101.