6,000 o redwyr yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Abertawe

Rhedwyr
Image caption Mae 6,000 o redwyr yn rhedeg yn hanner marathon Abertawe

Mae nifer o ffyrdd wedi cau yn Abertawe gyda 6,000 o redwyr yn cymryd rhan mewn hanner marathon yn y ddinas.

Fe ddechreuodd y brif ras am 09:00 fore Sul gyda'r ffyrdd ar gau tan 14:00.

Mae Cyngor Abertawe yn cynghori gyrwyr i osgoi'r ardaloedd sydd ar gau.

Mae rhai ffyrdd wedi'i heffeithio yng Nghaerdydd hefyd gyda thua 1,000 o bobl yn cymryd rhan mewn Triathlon yn y brifddinas.