Heddlu'r De yn ymchwilio i farwolaeth 'amheus' dynes

Police in Penrhiwceiber
Image caption Mae'r Heddlu yn ymchwilio i'r farwolaeth dynes ym Mhenrhiwceibr

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth dynes yn Rhondda Cynon Taf.

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran yr Heddlu eu bod yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth dynes ym Mhenrhiwceibr ger Aberpennar.

Dywedodd yr Heddlu bod amodau amheus i farwolaeth y ddynes a fu farw rhai dyddiau yn ôl.

Mae dyn yn y ddalfa yn cynorthwyo'r Heddlu gyda'i hymchwiliad.