Heddlu'n ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ym Mro Morgannwg

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ar ffordd yr B4268 rhwng Pentre Meyrick Cross a Llyswyrni, Bro Morgannwg.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad cyn 14:00 ddydd Sadwrn rhwng Land Rover Freelander lliw glas a beic modur.

O ganlyniad bu farw dyn 52 oed oedd yn gyrru'r beic modur yn y fan a'r lle.

Mae'r Heddlu yn apelio i unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101.