Gwrthdrawiad angheuol ar ffordd y A487 ger Porthmadog

Car Heddlu

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A487 ger Porthmadog.

Fe gafodd yr heddlu eu galw am 14:15 ddydd Sul i wrthdrawiad rhwng lori HGV a sgwter.

O ganlyniad bu farw dynes oedd yn gyrru'r sgwter yn y fan a'r lle.

Mae'r ffordd yn parhau ar gau.

Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un gyda gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw ar 101.