Heddlu'r De yn ymchwilio i farwolaeth 'amheus' dynes

Anna Jura Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Cafodd corff Anna Jura ei ddarganfod mewn ty ym Mhenrhiwceiber

Mae Heddlu'r De yn parhau i ymchwilio i farwolaeth 'amheus' dynes yn Rhondda Cynon Taf.

Fe gadarnhaodd yr Heddlu fod Anna Jura, oedd yn 44 oed, wedi marw mewn tŷ ym Mhenrhiw-ceibr ger Aberpennar ar 24 Mehefin.

Cafodd dyn 72 oed, a oedd yn cael ei holi gan dditectifs, ei ryddhau tra bod ymchwiliadau yn parhau.

Mae'n nhw'n apelio ar i unrhyw un sydd a gwybodaeth i gysylltu â nhw.