Cymru ddoe a her y dyfodol

Dysgu hanes Cymu i blant yw'r nod, ond weithiau mae'r rhieni'n dysgu hefyd...
Image caption Dysgu hanes Cymu i blant yw'r nod, ond weithiau mae'r rhieni'n dysgu hefyd...

Faint wyddoch chi am hanes Cymru? Dros y degawdau mae'r ysgolion wedi tueddu i ganolbwyntio ar hanes Prydain yn hytrach na rhoi sylw i ffigyrau a digwyddiadau arwyddocaol ein cenedl.

Ond mae 'na ymdrechion i geisio dweud stori'r Cymry i genedlaethau newydd o blant. Mae Eleri Twynog wedi sefydlu cwmni Mewn Cymeriad sydd yn defnyddio comedi a drama i ddod â rhai o straeon lliwgar Cymru yn fyw i blant a phobl ifanc.


Ro'n i yn ymwybodol o'r diffyg yn fy ngwybodaeth i yn bersonol am hanes Cymru a'r diffyg oedd wedi bod yn fy addysg i.

Ddaeth hi'n amlwg i mi yn weddol gyflym wedi sefydlu'r cwmni fod y broblem o ddiffyg ymwybyddiaeth o'n hanes yn waeth nag o'n i wedi ei ystyried. Y broblem oedd diffyg adnoddau wedi cyplysu gyda'r ffaith nad yw'n bwnc ar y cwricwlwm, felly mae'n cael ei ddysgu bron fel pwnc atodol.

Y drafferth sydd gyda ni yn ein system yng Nghymru yw os yw ysgol yn astudio'r Tuduriaid, y duedd yw canolbwyntio ar Harri'r Seithfed a'r Wythfed, heb sôn am eu cysylltiadau Cymreig, ac felly dyna ble ry'n ni yn gallu helpu.

Mae'n cynnig y cyfle i astudio hanes Harri'r Seithfed cyn iddo ddod yn frenin, a rhoi stori Cymru a'r cyd-destun hwnnw i'r hanes.

O ddefnyddio dulliau theatr, yn sydyn mae 'na rinweddau ychwanegol i ddysgu am hanes Cymru. Mae hynny yn ei gwneud hi'n haws wedyn i ysgolion ein galw ni mewn er mwyn medru manteisio ar yr adnodd.

Mae'r plant yn cymryd rhan yn ein sioeau, ac yn rhan o'r perfformiad ac mae hyn yn elfen bwysig iawn o'r dulliau dysgu ry'n ni'n eu cynnig.

Image caption Dod â hanes Buddug yn fyw yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Cysylltiadau Cymreig cryf

Mae 'da ni bron i ddeunaw o sioeau nawr, yn canolbwyntio ar gymeriadau o wahanol gyfnodau mewn hanes. O gyfnod y Celtiaid i'r Tuduriaid, i'n prosiect mwyaf diweddar sef hanes Hedd Wyn. Mae gan bob un sioe gysylltiad Cymraeg a Chymreig cryf heb sôn am straeon gafaelgar.

Mae ymweliadau i leoliadau hanesyddol yn bwysig iawn. Naethon ni berfformio Hedd Wyn i ysgolion yn Yr Ysgwrn, ac mae cael hanes y gŵr yn y man lle'r oedd yn gymaint rhan ohono yng nghyd-destun y lleoliad yn arf pwerus iawn.

Mae'n bwysig weithiau i'r plant ddod mas o'r dosbarth a mwynhau'r profiad unigryw o ddysgu am hanes ar leoliad.

Y sialens fawr i'r cwmni yw meithrin ysgolion newydd i fod yn rhan o'r prosiectau. Yn anffodus, tueddi fynd i'r un ysgolion fyddwn ni ar y cyfan ac rwy'n treulio llawer o amser ar y ffôn yn ceisio dwyn perswâd ar ysgolion i wahodd ni mewn...

Image caption Sioe Hedd Wyn yn Yr Ysgwrn

Y gorffennol a miliwn o siaradwyr Cymraeg

Mae ysgolion Cymraeg yn dueddol o gefnogi ac rwy'n gwneud fy ngorau i geisio denu diddordeb ysgolion di-Gymraeg Cymru, gan fod y ddealltwriaeth o hunaniaeth Cymru yr un mor bwysig yn yr ysgolion hynny, ac o bosib yn fwy pwysig.

Mae'n raddol yn tyfu, ond maen nhw'n tueddu i aros gyda'r Tuduriaid, neu'r Celtiaid, ac mae'n anodd iawn i'w perswadio i fentro i faes Owain Glyndŵr neu Mari Jones o'r Bala... ond dyfal donc.

Mae'n eithaf syfrdanol fod gan Lywodraeth Cymru darged o annog miliwn o bobl i siarad yr iaith, ac eto, does dim gorfodaeth i ddysgu am ein hanes ni fel gwlad, er mwyn rhoi cyd-destun i'r iaith honno.

Ry'n ni'n gobeithio perfformio sioe nes 'mlaen yn y flwyddyn fydd yn edrych sut mae'r Gymraeg wedi goroesi sawl her dros y canrifoedd a beth fydd angen ei wneud i geisio cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Eto, y nod fydd gwella dealltwriaeth o ble y'n ni nawr, drwy ddysgu o ble ni wedi dod. Yn yr Alban, mae'r cwricwlwm wedi ei addasu fel bod hanes yn cael ei weld drwy lygaid Albanaidd. Mae'n drueni ac yn destun tristwch bod ein system addysg ni ddim yn ein adlewyrchu fel cenedl trwy ein hanes.

Image caption Eleri Twynog (chwith), sylfaenydd Mewn Cymeriad gyda' un o haneswyr blaenllaw Cymru, Dr Elin Jones