Carwyn Jones: May yn 'prynu pleidleisiau' gyda bargen DUP

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae'r £1bn ychwanegol i "brynu pleidleisiau" y DUP, yn ôl Carwyn Jones

Dyw penderfyniad Theresa May i gynnig £1bn ychwanegol i Ogledd Iwerddon am gefnogaeth y DUP i'w llywodraeth yn ddim mwy na "phrynu pleidleisiau", yn ôl prif weinidog Cymru.

Mae'r DUP wedi cytuno i roi cefnogaeth i lywodraeth Mrs May yn San Steffan, fydd yn golygu pleidleisio gyda'r Ceidwadwyr ar achlysuron pwysig fel y gyllideb ac araith y Frenhines.

Er hynny, nid oes clymblaid ffurfiol rhwng y ddwy blaid.

Ddydd Llun, dywedodd Carwyn Jones bod y cytundeb yn "gwanhau'r DU" ac yn "lladd y syniad o gyllid teg i genhedloedd a rhanbarthau'r DU".

'Prynu pleidleisiau'

Fel arfer, mae'r setliad ariannol rhwng gwledydd y DU yn ddibynnol ar Fformiwla Barnett.

Ond mae ffynonellau wedi awgrymu wrth y BBC na fydd yr arian ychwanegol i Ogledd Iwerddon yn effeithio ar y fformiwla, gan mai ar brosiectau penodol y bydd yn cael ei wario.

Dywedodd Mr Jones: "Arian yw hwn mewn envelope i'r DUP, dyw hwn ddim byd i wneud â sicrhau llywodraeth gadarn i'r Deyrnas Unedig, ac wrth gwrs cael gwared â'r rheolau sy'n llywodraethu'r ffordd mae arian yn cael ei ddosbarthu dros y Deyrnas Unedig.

"Mwy o arian felly i Ogledd Iwerddon, dim ceiniog i Gymru na'r Alban, a pham dyle cleifion, er enghraifft, yng Ngogledd Iwerddon gael mwy o arian y pen, [a] bod yn fwy gwerthfawr i Theresa May na chleifion yng Nghymru?

"Dyna'r cwestiwn mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ateb."

Image caption Fe gymerodd hi bythefnos i daro bargen rhwng y Ceidwadwyr a'r DUP

Ychwanegodd: "Ni wastad wedi cael arian i addysg ac i iechyd drwy Fformiwla Barnett, nawr mae Gogledd Iwerddon yn cael mwy o arian y tu fas i Fformiwla Barnett.

"Pam? I brynu pleidleisiau, nid rhyw egwyddor mawr, rhywbeth mor isel â hynny."

Yn gynharach, dywedodd Mr Jones ei fod wedi siarad ag Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.

"Fel llais Cymru yn y cabinet, mae ganddo [Mr Cairns] ddyletsrwydd i frwydro'n erbyn y fargen hon a sicrhau arian ychwanegol i'n gwlad," meddai.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cairns: Sefyllfa Gogledd Iwerddon yn 'gwbl wahanol'

Mynnodd Mr Cairns fodd bynnag nad oedd y setliad rhwng y Ceidwadwyr a'r DUP gyfystyr â "phrynu pleidleisiau", ac nad oedd yn golygu o reidrwydd y byddai rhagor o arian yn dod i Gymru.

"Y gwir yw bod Cymru nawr yn cael £120 am bob £100 sy'n cael ei wario yn Lloegr... mae'n setliad cryf a theg," meddai ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru.

Ychwanegodd y bydd Cymru'n elwa o fuddsoddiadau gwahanol gan gynnwys y bargeinion dinesig i Gaerdydd ac Abertawe, cynllun i dyfu economi gogledd Cymru, a chamau fel diddymu'r tollau ar Bont Hafren.

"Mae [Carwyn Jones] yn gwybod bod setliad cryf ofnadwy gennym ni. Mae e'n ceisio gwthio'r ddadl o danariannu Cymru ers blynyddoedd, ond y gwir yw o fewn chwe mis i fod yn Downing Street fe wnaeth Theresa May gytuno i'r pecyn ariannol newydd."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
AS Plaid, Liz Saville-Roberts, yn galw am £1.7bn i Gymru

Fe ddywedodd Plaid Cymru y dylai Cymru gael mwy o gyllid yn sgil y fargen.

"Os yw'r adroddiadau bod y DUP wedi selio cynnydd o £1bn mewn gwariant cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu gwireddu, yna dylai Cymru gael tua £1.7bn yn ôl cyfran ein poblogaeth," meddai Liz Saville-Roberts.

Dywedodd y byddai'n "hwb sylweddol i economi Cymru".

Aeth y Ceidwadwyr i chwilio am gefnogaeth wedi iddyn nhw fethu ennill mwyafrif yn yr etholiad ddechrau'r mis.

Mae 10 AS y DUP yn rhoi mwyafrif ymarferol o saith i'r llywodraeth, gan nad ydy Sinn Fein yn cymryd eu seddi yn San Steffan a dydy'r Llefarydd a'i ddirprwyon ddim yn cael pleidleisio.

Straeon perthnasol