Creu 40 o swyddi wrth i BBC Cymru ehangu gwasanaethau

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Pennaeth BBC Cymru yn addo mynd i'r afael â "dirywiad difrifol" mewn adloniant iaith Saesneg o Gymru

Fe fydd BBC Cymru'n creu 40 o swyddi newydd wrth iddyn nhw ehangu gwasanaethau.

Ymysg y datblygiadau mae 25 rôl newyddiadurol newydd a thîm arbennig i ohebu ar Brexit.

Bydd hefyd mwy o newyddion Cymreig yn Saesneg ar BBC One, gyda mwy o amser i fwletin hwyr Wales Today a bwletin byr newydd am 20:00.

Ym maes adloniant, mae'r gorfforaeth yn dweud y bydd "o leiaf 2-3 awr o raglenni ychwanegol ar gael bob wythnos" a allai gefnogi 100 o swyddi cynhyrchu yn y sector annibynnol.

Mae'r buddsoddiad gwerth £10.5m yn cynnwys £8.5m sydd eisoes wedi'i gyhoeddi.