Plaid yn galw am £1.7bn i Gymru
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

AS Plaid yn galw am £1.7bn i Gymru

26 Mehefin 2017 Diweddarwyd 16:49 BST

Mae Plaid Cymru wedi galw am £1.7bn i Gymru yn sgil yr arian ychwanegol fydd Gogledd Iwerddon yn ei gael.

Yn ôl Liz Saville-Roberts o'r blaid, mae angen i'r setliad ariannol yn y DU fod yn "deg".

Daw'r buddsoddiad yng Ngogledd Iwerddon wedi'r fargen rhwng y Ceidwadwyr a'r DUP.