Disgwyl penderfyniad y llywodraeth ar Gylchffordd Cymru

Cylchffordd Cymru Image copyright Cylchffordd Cymru

Mae disgwyl i gabinet Llywodraeth Cymru gyfarfod ddydd Mawrth i drafod a fyddan nhw'n rhoi sêl bendith i gynllun Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy.

Mae'r cwmni y tu ôl i ddatblygiad y trac rasio - Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd - wedi gofyn am warant gan y llywodraeth er mwyn parhau gyda'r prosiect.

Y penderfyniad sy'n wynebu gweinidogion yw cael eu talu £99m am gymryd y risg, ond wynebu bil o £210m petai'r fenter yn methu.

Bwriad y cynllun yw creu tua 6,000 o swyddi yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, a denu tua 750,000 o ymwelwyr y flwyddyn i ddigwyddiadau fel y MotoGP.

Gwarant

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yn y cyfarfod cabinet, ac mae BBC Cymru yn deall bod gwahaniaethau barn yn bodoli ynglŷn â pha ffordd i fynd.

Mae'r prosiect wedi bod yn un dadleuol o'r cychwyn, gydag archwilwyr yn dweud fod "methiannau sylweddol" yn y ffordd roedd arian cyhoeddus wedi ei reoli, a'r llywodraeth yn gofyn am ragor o wybodaeth gan y datblygwyr.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Beth yw cynllun trac rasio Glyn Ebwy?

Cafodd y cynllun gwreiddiol ar gyfer y trac rasio ei chyhoeddi yn 2011.

Bryd hynny fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddweud y byddan nhw'n cyfrannu £2m tuag at y prosiect, gyda rhybudd y byddai'n rhaid i weddill yr arian ddod o ffynonellau preifat.

Ond fe wnaeth y datblygwyr ofyn am £50m, yn ogystal â gwarant ariannol gan y llywodraeth ar gyfer cost y cynllun.

Ar ôl i'r llywodraeth fynnu yn 2016 na fyddan nhw'n gwarantu holl gost y cynllun, fe wnaeth y datblygwyr ddychwelyd gyda chynllun newydd.

Mae'r prosiect wedi rhannu barn yn wleidyddol, gyda rhai yn ei alw'n "risg enfawr" ac eraill yn credu ei fod yn "gyfle unwaith mewn canrif".

Codwyd cwestiynau ynglŷn â dichonoldeb y cynllun, yn ogystal â'r effaith ar yr amgylchedd.

'Dim torri corneli'

Cafodd ymchwiliad i ddefnydd arian cyhoeddus ei gynnal gan archwilwyr, ac fe wnaethon nhw ganfod "diffygion" cyllido, gyda £9.3m o arian cyhoeddus wedi ei wario ac £1m wedi mynd i gwmni prif weithredwr y datblygiad.

Gyda'r oedi'n parhau, mynnodd y llywodraeth ar ddechrau'r flwyddyn y byddai'n rhaid i'r datblygwyr ddangos fod ganddyn nhw gefnogaeth ariannol os oedd y cynllun am fwrw yn ei blaen.

Ym mis Mehefin dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates y byddai penderfyniad yn cael ei wneud yn fuan, a hynny wedi iddo fynnu na fyddai'n "torri corneli" wrth asesu'r cais am gefnogaeth ariannol.

Image copyright Cylchffordd Cymru
Image caption Mae prosiect Cylchffordd Cymru gwerth dros £400m

Yr wythnos hon fe wnaeth swyddogion o Lywodraeth Cymru ymddangos gerbron pwyllgor o Aelodau Cynulliad oedd yn ymchwilio i wariant y llywodraeth ar y prosiect.

Daeth hynny wedi i ffrae godi pan wnaeth dau swyddog dynnu allan rhag rhoi tystiolaeth mewn sesiwn flaenorol.

Dywedodd Brian Morgan, athro mewn entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Met Caerdydd, fod risg gyda'r rhan fwyaf o fuddsoddiadau preifat ond bod hefyd "risg os oes dim byd yn cael ei wneud".

"Mae pobl wedi cael llond bol o'r diffyg buddsoddi a'r diffyg rhagolygon ar gyfer twf busnes yn y rhan honno o Gymru, a nawr yw'r amser i weithredu," meddai.

Straeon perthnasol