Pencampwriaeth y Siroedd: Morgannwg yn dechrau'n gryf

Timm van der Gugten Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Morgannwg wedi bowlio Sir Derby allan am 288 ar ddiwrnod cyntaf eu gornest ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Wayne Madsen oedd prif sgoriwr yr ymwelwyr gyda 70 rhediad, tra bod Tom Milnes hefyd wedi llwyddo i sgorio dros hanner cant.

Llwyddodd Marchant de Lange a Timm van der Gugten i gymryd tair wiced yr un i Forgannwg, gyda Michael Hogan a Graham Wagg hefyd yn cael dwy yr un.

Gyda'r timau yn chwarae gêm ddydd-nos gyda'r bêl binc, roedd amser i Forgannwg ddechrau eu batiad hwythau toc cyn iddi nosi, ac fe sgoriodd van der Gugten bum rhediad heb fod allan.