Llywodraeth Cymru yn gwrthod arian i Gylchffordd Cymru

Cylchffordd Cymru Image copyright Cylchffordd Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y cais i warantu bron i hanner cost prosiect Cylchffordd Cymru gwerth £430m yng Nglyn Ebwy.

Roedd y datblygwyr, Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, yn dweud y byddai tua 6,000 o swyddi yn cael eu creu yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Ond ddydd Mawrth, fe wrthododd yr Ysgrifennydd Economi, Ken Skates, honiad y cwmni am nifer y swyddi, gan ddweud fod y ffigwr yma wedi ei "or-chwyddo".

"Mae'r nifer yn nes at 100 o swyddi uniongyrchol, gyda 500 o swyddi anuniongyrchol, a thua 500 o swyddi i adeiladu'r trac rasio," meddai.

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Martin Whitaker, Prif Weithredwr Cylchffordd Cymru ei fod yn "hynod o siomedig" fod Llywodraeth Cymru wedi methu â chefnogi'r cynllun.

Cost y gwarant yn 'rhy uchel'

Dywedodd Mr Skates y byddai'r gost o warantu'r cynllun yn rhy uchel, ac y byddai'n effeithio'n uniongyrchol ar gynlluniau gwariant eraill y llywodraeth: "Er mwyn rhoi syniad i chi o faint yr arian, mae e gyfateb â 10 ysgol newydd tebyg i un Ysgol Bae Baglan ym Mhort Talbot, Canolfan Gofal Dwys Arbenigol fel yr un sydd wedi ei gynllunio ar gyfer Cwmbrân, neu 5,000 o dai fforddiadwy mewn cymunedau ar draws Cymru."

Yn ystod cyfarfod o'r cabinet fore Mawrth, clywodd gweinidogion y bydd parc busnes ceir yn cael ei adeiladu yn ardal Glyn Ebwy yn lle'r trac rasio.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Beth yw cynllun trac rasio Glyn Ebwy?

Mae'r prosiect wedi bod yn un dadleuol o'r cychwyn, gydag archwilwyr yn dweud fod "methiannau sylweddol" yn y ffordd roedd arian cyhoeddus wedi ei reoli, a'r llywodraeth yn gofyn am ragor o wybodaeth gan y datblygwyr.

Cafodd y cynllun gwreiddiol ar gyfer y trac rasio ei chyhoeddi yn 2011.

Bryd hynny fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddweud y byddan nhw'n cyfrannu £2m tuag at y prosiect, gyda rhybudd y byddai'n rhaid i weddill yr arian ddod o ffynonellau preifat.

Ond fe wnaeth y datblygwyr ofyn am £50m, yn ogystal â gwarant ariannol gan y llywodraeth ar gyfer cost y cynllun.

Ar ôl i'r llywodraeth fynnu yn 2016 na fyddan nhw'n gwarantu holl gost y cynllun, fe wnaeth y datblygwyr ddychwelyd gyda chynllun newydd.

Mae'r prosiect wedi rhannu barn yn wleidyddol, gyda rhai yn ei alw'n "risg enfawr" ac eraill yn credu ei fod yn "gyfle unwaith mewn canrif".

Codwyd cwestiynau ynglŷn â dichonoldeb y cynllun, yn ogystal â'r effaith ar yr amgylchedd.

'Dim torri corneli'

Cafodd ymchwiliad i ddefnydd arian cyhoeddus ei gynnal gan archwilwyr, ac fe wnaethon nhw ganfod "diffygion" cyllido, gyda £9.3m o arian cyhoeddus wedi ei wario ac £1m wedi mynd i gwmni prif weithredwr y datblygiad.

Gyda'r oedi'n parhau, mynnodd y llywodraeth ar ddechrau'r flwyddyn y byddai'n rhaid i'r datblygwyr ddangos fod ganddyn nhw gefnogaeth ariannol os oedd y cynllun am fwrw yn ei blaen.

Ym mis Mehefin dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates y byddai penderfyniad yn cael ei wneud yn fuan, a hynny wedi iddo fynnu na fyddai'n "torri corneli" wrth asesu'r cais am gefnogaeth ariannol.

Image copyright Cylchffordd Cymru
Image caption Byddai prosiect Cylchffordd Cymru yn costio £430m

Yr wythnos hon fe wnaeth swyddogion o Lywodraeth Cymru ymddangos gerbron pwyllgor o Aelodau Cynulliad oedd yn ymchwilio i wariant y llywodraeth ar y prosiect.

Daeth hynny wedi i ffrae godi pan wnaeth dau swyddog dynnu allan rhag rhoi tystiolaeth mewn sesiwn flaenorol.

Dywedodd Brian Morgan, athro mewn entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Met Caerdydd, fod risg gyda'r rhan fwyaf o fuddsoddiadau preifat ond bod hefyd "risg os oes dim byd yn cael ei wneud".

"Mae pobl wedi cael llond bol o'r diffyg buddsoddi a'r diffyg rhagolygon ar gyfer twf busnes yn y rhan honno o Gymru, a nawr yw'r amser i weithredu," meddai.

Blynyddoedd cyn penderfynu

Beirniadu'r penderfyniad mae'r gwrthbleidiau.

Yn ôl Adam Price, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi bod hi'n "syfrdanol" ei bod hi wedi cymryd "saith mlynedd a dros £9m o arian cyhoeddus i ddod i'r penderfyniad".

Dywedodd bod y llywodraeth wedi "gwrthod y cynnig mwyaf ar gyfer buddsoddiad preifat yn hanes Cymru."

Dweud y bydd trigolion Blaenau Gwent wedi "siomi" gyda'r newyddion mae Russell George, llefarydd y Ceidwadwyr ar yr economi.

Ychwanegodd bod hi'n achos o bryder bod un o swyddogion Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth bwyllgor Cynulliad fod y prosiect yn "barod" i'w chyflawni.

Ond mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol David Davies wedi cefnogi'r llywodraeth gan ddweud ar twitter bod Ken Skates wedi gwneud y penderfyniad iawn "yn sgil craffu manwl ar y cynllun busnes."

'Hynod o siomedig'

Dywedodd Martin Whitaker, Prif Weithredwr Cylchffordd Cymru ei fod yn hynod o siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi methu a chefnogi'r cynllun: "Rydym yn anghytuno'n chwyrn â'r penderfyniad a'r rhesymeg y tu ôl iddo.

"Rydym wastad wedi credu'n angerddol, ac yn dal i gredu, fod gan y prosiect y gallu i drawsffurfio a daprau cyfleoedd a gobaith i un o ardaloedd tlotaf y DU, nid Cymru'n unig.

"Bydd fy nhîm a mi nawr yn dadansoddi rhesymau Llywodraeth Cymru dros beidio â chefnogi'r datblygiad a byddwn yn chwilio am eglurder ychwanegol ganddyn nhw."

"Byddwn wedyn yn cyhoeddi ymateb manwl cyn penderfynu ar ein cam nesaf."

Straeon perthnasol