'Angen mwy o dryloywder wrth adolygu marwolaethau plant'

Nick Smith
Image caption Roedd Nick Smith wedi gofyn am gymorth yr awdurdodau, ond ni chafodd unrhyw beth ei wneud

Mae pryder nad yw teuluoedd yn cael yr hawl i herio casgliadau adroddiadau sy'n cael eu cynnal ar ôl i blentyn farw neu gael ei anafu'n ddifrifol wedi esgeulustod neu gamdriniaeth.

Daw hyn ar ôl i'r Comisiynydd Plant, Sally Holland glywed profiadau nifer sydd wedi cysylltu â'i swyddfa - yn eu plith Nick Smith o Lanllyfni, Dyffryn Nantlle, tad bachgen dwyflwydd fu farw wrth law ei fam yn 2010.

Roedd Melanie Stevens, cyn-bartner Nick Smith wedi mygu Izaak, a'i hanner brawd, Phillip, yn eu cartref yn Nhrawsfynydd, cyn lladd ei hun ddyddiau cyn y Nadolig.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod barn y teulu'n bwysig iawn yn y broses o gynnal Adolygiad Ymarfer Plant, a bod datblygu hyfforddiant i'r byrddau sy'n cynnal adolygiadau yn parhau.

Pwrpas Adolygiad Ymarfer Plant yw ymchwilio i waith asiantaethau statudol mewn achosion o'r fath, a dysgu gwersi er mwyn atal trychinebau yn y dyfodol.

Ond mewn llythyr at Lywodraeth Cymru, mae'r Comisiynydd yn galw am newid y drefn er mwyn galluogi teuluoedd i herio canfyddiadau'r adroddiad, neu gyfrannu at eiriad y ddogfen a'i argymhellion.

'Newid bywyd am byth'

Roedd Melanie Stevens a Nick Smith wedi gwahanu ac yn anghydweld am ofal Izaak.

Lladdodd ei hun a'i phlant ar y diwrnod roedd Mr Smith i fod i gasglu Izaak er mwyn iddo dreulio'r noson gydag e am y tro cyntaf.

Dywedodd: "Doeddwn i ddim yn synnu. Roedd yn sioc enfawr, ges i fy nhrawmateiddio, roedd fy mywyd wedi newid am byth, ond allai ddim dweud fy mod yn synnu."

Image copyright Nick Smith
Image caption Fe wnaeth Melanie Stevens ladd dau o'i phlant cyn lladd ei hun yn 2010

Yn Hydref 2011, bu Adolygiad Annibynnol Achos Difrifol i farwolaeth y bechgyn gan Fwrdd Diogelu Plant Gwynedd a Môn.

Roedd asiantaethau'n cynnwys gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd, yr awdurdod lleol a'r corff sy'n gwarchod plant, Cafcass Cymru wedi ymwneud â'r teulu dros sawl blwyddyn.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad mai ychydig y gellid fod wedi'i wneud i arbed eu bywydau ac mai'r unig ffordd o amddiffyn Izaak a Phillip fyddai eu tynnu o ofal eu mam, ond nid oedd sail dros wneud hynny.

Image caption Daeth adolygiad i'r casgliad mai ychydig y gellid fod wedi'i wneud i arbed bywydau Phillip ac Izaak

Ond mae Mr Smith yn credu y dylid fod wedi gwneud mwy.

Roedd eisoes wedi codi pryderon gyda'r awdurdodau am iechyd meddwl Ms Stevens ar ôl iddi fygwth niweidio'i hun a Phillip, a gofynnodd i'r gwasanaethau cymdeithasol gynnal cyfarfod penodol i'r teulu.

Chafodd dim ei wneud.

'Pob drws jyst yn cau'

Mae'r adroddiad yn cydnabod nad oedd pryderon Mr Smith wedi eu cymryd yn ddigon difrifol, a thynnodd sylw at nifer o wersi i'w dysgu.

Cafodd 10 argymhelliad eu cyflwyno er mwyn gwella'r ffordd roedd yr asiantaethau'n cydweithio.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Alun Ffred Jones: 'Amlwg bod gwendidau'

Un o'r rhai fu'n cynorthwyo Mr Smith oedd Alun Ffred Jones, cyn aelod cynulliad Arfon a chadeirydd presennol Plaid Cymru.

Dywedodd ei fod wedi ysgrifennu at y cyn ddirprwy weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas am bryderon Mr Smith ynglyn â chanfyddiadau'r adolygiad.

"Mae'n amlwg bod 'na wendidau sylfaenol achos yr atgof sy' gen i o'r ymatebion gafon ni oedd bod pob drws jyst yn cau," meddai.

"'Na, Na, Na' gan bobl dwi'n 'nabod a dwi wedi parchu - ond dyna oedd y drefn."

"Mi ofynnes i'r gweinidog ar y pryd wrth gwrs i ymyrryd ac mi ddywedodd hi nad oedd ganddi ddim hawl i ymyrryd - ond nonsens 'di hynny, dyna oedd yn amlwg y feddylfryd o fewn y gwasanaethau."

'Mwy o hawliau'

Mae Mr Jones yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy "agored" a "thryloyw" a "rhoi mwy o hawliau" i'r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio, a gwneud hynny ar "fyrder".

"Mewn achosion eithriadol o ddifrifol 'efo canlyniadau erchyll fel yr achos yma fydde chi'n disgwyl mwy o hyblygrwydd a fydde chi'n disgwyl y fydde'r drefn sydd wedi ei sefydlu gan y llywodraeth yn caniatáu'r hyblygrwydd yna ac i rywun sydd yn sefyllfa Nick i o leia' allu cael y wybodaeth gyflawn a gallu o leia' trafod yr hyn ddigwyddodd i weld a oedd hynny'n briodol er mwyn dysgu gwersi."

Image caption Mae Sally Holland am weld teuluoedd yn rhan o'r broses o gynnal adolygiadau

Yn 2013 cafodd y broses o gynnal Adolygiadau Achosion Difrifol eu disodli gan Adolygiadau Ymarfer Plant ond yn ôl Sally Holland dydy'r system newydd ddim yn caniatáu atebolrwydd.

"Dwi am weld teuluoedd yn rhan o'r broses adolygu, yn aml nhw fydd yn cynrychioli llais y plentyn felly mae'n bwysig bod y broses yma'n un sensitif a bod y teuluoedd yma'n teimlo bod eu lleisiau'n cael eu clywed," meddai.

"Dydw i ddim wedi gweld unrhyw welliannau yn yr amser mae'n cymryd i gyflawni'r adolygiadau yma a does dim unrhyw fodd o gwyno neu godi pryder os yw'r adolygiad yn cymryd yn hirach na chwe mis - hyd adolygiad arferol."

Gwella atebolrwydd

Mae hi hefyd yn poeni nad ydy'r byrddau - sy'n gyfrifol am gynnal yr Adolygiadau Ymarfer Plant - yn atebol i unrhyw un neu unrhyw gorff arall.

Un awgrym gan Sally Holland oedd y gallai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru edrych ar gwynion yn erbyn y byrddau.

Doedd yr ombwdsmon, Nick Bennett ddim wedi gallu cynorthwyo Mr Smith pan gysylltodd â'i swyddfa gan nad oedd rheolaeth ganddo dros y byrddau.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wrthi'n ystyried ymestyn pwerau'r ombwdsmon.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru nad oedd am wneud sylw am yr achos "gan mai corff arall...oedd yn gyfrifol amdano".

Ond mae'r bwrdd yn dweud bod y fframwaith newydd ar gyfer adolygu achosion o'r fath yn gwella atebolrwydd yr holl asiantaethau dan sylw.

Straeon perthnasol