Y gwrthbleidiau'n galw am ymchwiliad i Gylchffordd Cymru

Cylchffordd Image copyright CYLCHFFORDD CYMRU

Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr wedi galw am ymchwiliad llawn i holl benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar gynllun trac rasio Cylchffordd Cymru.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Adam Price, bod y penderfyniad yn rhan o "batrwm bod gwybodaeth gamarweiniol yn cael ei rannu gan Lywodraeth Cymru".

Ddydd Mawrth fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod cais i warantu buddsoddiad £210m Aviva yng Nghylchffordd Cymru, fyddai wedi golygu mai'r trethdalwr fyddai'n talu'r pris petai'r cynllun yn methu.

Dywedodd swyddogion o'r llywodraeth iddi ddod i'r amlwg "yn yr wythnosau diwethaf" y byddai'r gwir gost lawer yn uwch.

Ar sail cyngor gan y Trysorlys a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod perygl mawr y byddai holl ddyled y prosiect o £373m yn cael ei glustnodi fel gwariant cyfalaf.

Byddai hwnnw'n cael ei gymryd o'r gyllideb dros dair blynedd - arian fyddai fel arall yn gallu cael ei wario ar ysgolion, cartrefi ac ysbytai.

'Dim rheswm i'w atal'

Mae honiadau hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth fuddsoddwyr Cylchffordd Cymru bythefnos yn ôl nad oedd rheswm i atal y prosiect rhag mynd yn ei flaen.

Cafodd e-bost gan un o uwch swyddogion y llywodraeth ei anfon at Aviva Investors ar 14 Mehefin yn dweud eu bod wedi siarad â chyfreithwyr ynglŷn â chydymffurfio a rheolau cymorthdaliadau'r UE.

Ysgrifennodd: "Y newyddion da ar hyn o bryd yw nad yw'n ymddangos bod unrhyw reswm i atal y cynllun, ond mae yna un pwynt yr hoffwn ei drafod gyda chi yn ymwneud â strwythur y cytundeb."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Adam Price yn galw am ymchwiliad i holl benderfyniadau'r llywodraeth Cymru ar y cynllun

Dywedodd Mr Price wrth BBC Cymru ddydd Mercher: "Naill ai roedd y llywodraeth yn dwyllodrus, yn camarwain y partneriaid, neu ar ôl chwech, saith blynedd o ymwneud â'r prosiect yma maen nhw, yn y dyddiau diwethaf, wedi adnabod yr anhawster mawr yma, sy'n golygu eu bod nhw'n hollol fethedig fel llywodraeth, yn eu ffordd nhw o ymdrin â phrosiect mor fawr a chymhleth a hyn.

"Rwy'n credu bod rhaid i ni gael ymchwiliad llawn i'r holl benderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru i'r prosiect yma.

"Mae 'na batrwm bod gwybodaeth gamarweiniol yn cael ei rannu gan Lywodraeth Cymru gyda'r cyfryngau, y Senedd, a waethaf oll, gyda'r cyhoedd.

"Mae pobl Blaenau Gwent yn haeddu gwell gan y Blaid Lafur, sydd wedi cael cefnogaeth ganddynt ar hyd y blynyddoedd."

'Cwestiynau difrifol'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies hefyd yn galw am ymchwiliad, gan ddweud bod "pobl Cymru, yn enwedig trigolion Glyn Ebwy, yn haeddu atebion wedi cymaint o flynyddoedd o gadw'r ffydd".

"Mae yna gwestiynau difrifol yn parhau, a dim ond ymchwiliad cyhoeddus annibynnol all ddarparu atebion boddhaol," meddai.

Image caption Mae Ken Skates yn dweud fod y llywodraeth wedi dilyn y broses a chraffu'n gywir ar y cynllun

Wrth siarad yn y senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Price, gafodd afael ar yr e-bost: "Ydyn ni wir i fod i gredu nad oedd y llywodraeth yn ymwybodol o'r materion yn ymwneud â'r fantolen ar 14 Mehefin, ond iddo roi stop ar y cynllun 13 diwrnod yn ddiweddarach?"

Daeth y penderfyniad i beidio â bwrw 'mlaen â chynllun Cylchffordd Cymru ddydd Mawrth ar ôl gwaith craffu ar y cynlluniau, fel rhan o broses diwydrwydd dyladwy (due diligence) ddechreuodd ym mis Chwefror.

Wrth ateb Mr Price, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates mai ond drwy'r broses diwydrwydd dyladwy "yr oedden ni wedyn yn gallu mynd at Y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Thrysorlys ei Mawrhydi i allu asesu'r risg a'r tebygrwydd y byddai'n talu ei ffordd".

"O ran y nodyn y mae'n cyfeirio ato yn ymwneud ag Aviva a'r ffordd yr oedd hi'n ymddangos na fyddai dim i rwystro'r cynllun, wel holl bwynt y broses diwydrwydd dyladwy yw eich bod chi'n mynd at y ffeithiau ac yn craffu'n gywir."

Ychwanegodd fod gweision sifil wedi cynnal cyfarfodydd wythnosol gyda Chwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd "er mwyn sicrhau fod y prosiect yn cael pob cyfle ymarferol i sicrhau ei fod yn gweithio".