Seintiau Newydd 1-2 FC Europa

Seintiau Newydd Image copyright SNS

Colli fu hanes Y Seintiau Newydd yn eu gêm ragbrofol gyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr yn erbyn Europa FC.

Fe aeth Alex Quillo â'r ymwelwyr o Gibraltar ar y blaen wedi wyth munud, cyn i Scott Quigley ddod â'r Seintiau'n gyfartal cyn yr egwyl.

Ond methodd y Seintiau â mynd ar y blaen, a daeth gôl fuddugol Europa o droed Kike Gómez, a grymanodd y bêl i'r rhwyd hanner ffordd drwy'r ail hanner.

Image copyright PA
Image caption Kike Gómez o Europa FC yn dathlu

Mae'r Seintiau wedi cyrraedd ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr yn y pum tymor diwethaf, ond bydd angen i'r rheolwr dros dro, Scott Ruscoe, sicrhau gwell perfformiad gan ei dîm yn yr ail gymal.

Bydd pencampwyr Cymru'n teithio i Faro ym Mhortiwgal ar gyfer yr ail gymal yn erbyn Europa FC ar 4 Gorffennaf.

Straeon perthnasol