Sir Derby'n taro nôl yn erbyn Morgannwg

Morgannwg Image copyright Huw Evans picture agency

Fe darodd sir Derby yn ôl yn erbyn Morgannwg ar ail ddiwrnod y chwarae ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Stadiwm Swalec ddydd Mawrth.

Mae Sir Derby wedi cyrraedd 2-0 ar yr ail fatiad, 53 rhediad ar y blaen i Forgannwg, oedd allan i gyd ar 237.

Fe hawliodd Tony Palladino a Jeevan Mendis saith o wicedi Morgannwg rhyngddyn nhw, a Nick Selman yr unig un o'r tîm cartref i sicrhau 50 rhediad.

Wedi i Sir Derby ddechrau eu hail fatiad yn hwyr yn y dydd, daeth y chwarae i ben am 21:10 heb i Palladino na Tom Taylor golli eu wicedi.