Cylchffordd Cymru: Llywodraeth wedi dweud 'celwydd'

Cylchffordd Cymru Image copyright Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd

Mae Llywodraeth Cymru yn hyderus y bydd swyddi newydd yn cael eu creu yn ardal Glyn Ebwy, er i gynllun i adeiladu trac rasio newydd gael ei wrthod gan weinidogion.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth raglen The Wales Report y byddai swyddi newydd i'r ardal, gan gyfaddef bod y llywodraeth yn euog o fod "yn rhy agored" ynglŷn â'r cynllun.

Ond mae sylfaenydd cynllun Cylchffordd Cymru wedi dweud bod y llywodraeth wedi ei gamarwain ac wedi dweud "celwydd".

Roedd datblygwyr Cylchffordd Cymru wedi addo creu hyd at 6,000 o swyddi, ond gwrthododd Ysgrifennydd yr Economi warantu'r prosiect oherwydd amheuaeth am allu'r cynllun i greu cymaint â hynny o swyddi.

Roedd gofyn i Lywodraeth Cymru warantu'r cynllun £433m. Ond yn ôl Llywodraeth Cymru roedd risg y byddai hynny gyfystyr â dyled o £373m.

Image caption Mae Michael Carrick yn dweud nad yw wedi penderfynu os fydd y cynllun trac rasio yn parhau

Mae Michael Carrick, sylfaenydd cynllun Cylchffordd Cymru, wedi ymateb yn ffyrnig i'r penderfyniad.

Dywedodd bod y llywodraeth wedi camarwain datblygwyr a'u bod "wedi clywed celwydd".

"Ni wnaethon nhw rannu pryderon gyda ni. Wedi 28 cyfarfod, ni chafodd unrhyw un o'r pwyntiau yma eu rhannu gyda ni."

Parc busnes newydd

Yn hytrach na'r trac rasio, mae'r llywodraeth wedi penderfynu bwrw 'mlaen gyda chynllun parc busnes moduro, gyda chymorth £10m dros 10 mlynedd.

Hawliodd Mr Carrick bod ffigyrau Llywodraeth Cymru ynglŷn â chreu swyddi ar barc busnes newydd wedi eu "rhoi ar gefn pecyn o sigaréts", a'u bod yn "nonsens".

Ychwanegodd: "Pa ymchwil sydd wedi cael ei wneud gan y llywodraeth cyn addo £100m i'r parc busnes?"

Image caption Dywedodd Carwyn Jones bod y penderfyniad yn "amddiffyn y trethdalwr"

Yn siarad â BBC Cymru yn dilyn y penderfyniad i beidio â gwarantu buddsoddiad ar gyfer y cynllun, dywedodd Carwyn Jones: "Roeddwn i eisiau gweld y cynllun yn gweithio.

"Roeddwn i eisiau rhoi pob cyfle i Gylchffordd Cymru greu cynllun fyddai'n gweithio o ran y trethdalwr.

"Os ydyn ni'n euog o unrhyw beth yna efallai roedden ni yn rhy agored i roi'r cyfle yna iddyn nhw, ond roeddwn i eisiau i'r cyfle fod yno ac yn anffodus wnaeth hynny ddim gweithio."

'Amddiffyn y trethdalwr'

Dywedodd Mr Jones y bydd y llywodraeth yn parhau â'u hymdrechion i greu swyddi ar barc busnes yn yr ardal.

"Fe wnawn ni symud ymlaen â rhan o'r cynllun," meddai.

"Dyma'r rhan o'r cynllun fyddai wedi'r creu nifer mwyaf o swyddi i bob pwrpas, sef Parc Technoleg Blaenau'r Cymoedd."

Ychwanegodd bod y llywodraeth wedi ymddwyn yn briodol ac "wedi amddiffyn y trethdalwr".

Mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi galw am ymchwiliad i'r penderfyniad.

Straeon perthnasol