Yr athletwr Rhys Williams yn ymddeol oherwydd anaf

Rhys Williams Image copyright Getty Images

Mae'r athletwr Rhys Williams wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol oherwydd anaf i'w achiles.

Fe wnaeth Williams, 33, ennill medal aur ym Mhencampwriaethau Ewrop yn 2012, arian yn 2010 ac efydd yn 2006 yn y 400m dros y clwydi.

Llwyddodd i ennill medal efydd i Gymru hefyd yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi yn 2010.

Cyn ei anaf, roedd yr athletwr o Ben-y-bont wedi gobeithio cynrychioli ei wlad unwaith eto yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 yn Awstralia.

'Cymro gwladgarol'

Doedd Williams ddim yn rhan o garfan Cymru yn 2014 wedi iddo gael ei wahardd am bedwar mis am gymryd sylwedd nad oedd yn ymwybodol oedd wedi'i wahardd.

"Fel Cymro gwladgarol, does dim wedi rhoi mwy o falchder i mi na rhoi crys Cymru ymlaen a chystadlu dros fy ngwlad," meddai.

"Yn anffodus, mae anaf wedi dod â fy ngobeithion o gystadlu un tro olaf yng Ngemau'r Gymanwlad y flwyddyn nesaf i ben."