Cyn dditectif yn honni bod cyflenwad cudd o LSD wedi'i gladdu yng Ngharno ers dyddiau Operation Julie
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Cyflenwad LSD wedi'i gladdu yng Ngharno'

28 Mehefin 2017 Diweddarwyd 21:01 BST

Roedd y saithdegau yn gyfnod a welodd un o'r cyrchoedd mwyaf erioed gan yr heddlu yn erbyn cynhyrchwyr a dosbarthwyr cyffuriau LSD.

Canolbarth Cymru oedd canolbwynt yr ymgyrch ac fe gafwyd hyd i LSD gwerth miliynau o bunnau mewn tŷ ger Tregaron.

Ond ai dyna ddiwedd y stori? Mae un cyn dditectif oedd yn rhan o Operation Julie yn honni bod cyflenwad cudd o LSD dal wedi ei gladdu yng Ngharno.