Morgannwg yn brwydro'n ôl yn erbyn Derby

Morg/Derby Image copyright Trydar@deeserve

Glaw oedd y chwaraewr amlycaf ddydd Mercher gan nad oedd modd chwarae tan 18:00 yng Nghaerdydd.

Ond fe wnaeth bowliwr Morgannwg, Marchant De Lange argraff fawr pan ddechreuodd y chwarae, gan gipio tair wiced am 53 rhediad.

Wedi hynny fe wnaeth bowlwyr Morgannwg gymryd gweddill wicedi'r ymwelwyr, gyda Graham Wagg (2-14) ac Andrew Salter (3-60) yn serennu.

160 oedd cyfanswm Sir Derby gan olygu bod rhaid i Forgannwg oroesi chwe phelawd cyn diwedd y dydd.

Ond nid oedd hynny'n hawdd i'r tîm cartref, ac fe gollodd Jacques Rudolph ei wiced heb sgorio, gan adael Morgannwg ar 0-1 dros nos.