Papur Y Cymro ar werth am y tro olaf

cymro

Bydd Y Cymro, yr unig bapur newydd cenedlaethol Cymraeg, ar werth yn y siopau am y tro olaf yn ei ffurf bresennol ddydd Iau.

Mae grŵp bychan wedi dangos diddordeb i'w brynu ond nid oes sicrwydd y bydd yn parhau.

Cwmni Tindle sy'n cyhoeddi'r Cymro, ond rhai misoedd yn ôl fe wnaethon nhw gyhoeddi fod y gwaith hwnnw'n gorffen ddiwedd Mehefin, gan ddod â thraddodiad 85 mlynedd i ben.

Mae'r BBC yn deall bod y cwmni yn ffafrio un grŵp, Cyfeillion y Cymro, ar gyfer ei werthu iddyn nhw, ond mae trafodaethau yn parhau.

'Cywilyddus na fu ymdrech wleidyddol'

Mae Tindle wedi dweud ers misoedd eu bod nhw'n awyddus i ddod o hyd i brynwr er mwyn i'r papur barhau, a'u bod wedi rhoi cymorth ariannol i'r Cymro ers blynyddoedd.

Mae rhaglen materion cyfoes Radio Cymru, Manylu, yn gofyn beth ydy'r dyfodol i'r papur ac i'r wasg newyddiadurol Gymraeg.

Mae un o gyn-ohebwyr y papur wedi dweud wrth Manylu ei bod hi'n gywilyddus na fu mwy o ymdrech wleidyddol i sicrhau dyfodol y papur.

"Tawelwch o Gaerdydd sydd wedi fy synnu i, bobl y Cynulliad, lle mae nhw wedi bod?" meddai Lyn Ebenezer, fu'n gweithio 'efo'r Cymro o ddiwedd y 60au tan ganol yr 80au.

Image caption Dywedodd Lyn Ebenezer nad oedd digon o ymdrech wleidyddol i achub Y Cymro

"Yr unig wleidydd dwi wedi sylwi yn rhoi cefnogaeth 100% i arbed Y Cymro yw Liz Saville Roberts. Fe gododd y mater ar lawr y Tŷ ac fe gafodd hynny dipyn o sylw ond ar wahân iddi hi a rhyw ychydig siarad gwag does neb mewn awdurdod wedi dweud fawr ddim."

Pan oedd Lyn Ebenezer yn gweithio ar y papur roedd yn gwerthu 8,000 o gopïau yr wythnos.

Mae'n parhau fel colofnydd hyd heddiw, ond dim ond 2,000 mae'n gwerthu erbyn hyn.

"Mae'n bapur annibynnol, mae'n bapur cenedlaethol mewn mwy nag un ffordd, a heb Y Cymro fyddwn ni'n colli ffactor arall sy'n ein gwneud ni yn Gymry Cymraeg."

Gobeithion y Cyfeillion

Image caption Iestyn Jones: Hyderus o atgyfodi Y Cymro

Mae grŵp Cyfeillion y Cymro wedi rhoi cais i'w brynu ac yn gweithio ers tri mis ar gynllun i'w achub. Yn eu mysg mae Iestyn Jones sydd wedi bod yn golofnydd i'r papur ers 12 mlynedd.

"Mae pethau dal yn datblygu a byddwn ni yn dod at ein gilydd ar 6 Gorffennaf i drafod ymhellach," meddai.

"Dwi'n hyderus y medran ni atgyfodi Y Cymro ond mae ei ddyfodol yn dal i ddibynnu ar pobl i fynd allan a'i brynu.

"Does dim pwynt d'eud druan bod o 'di mynd. Mae angen mynd allan a prynu Y Cymro a cefnogi fo."

Dywedodd Mr Jones mai cam nesaf Cyfeillion y Cymro fydd cyfarfod gyda'r Cyngor Llyfrau i ofyn am barhad yn nawdd y papur.

Image caption Mae nifer y darllenwyr wedi gostwng yn sylweddol ers dyddiau golygyddiaeth John Eilian yn y 30au

Tra bod nifer yn rhagweld dyfodol du i'r diwydiant papurau newydd, mae eraill yn dadlau ein bod yn byw mewn Oes Aur arall mewn newyddiaduraeth Gymraeg - boed Y Cymro'n cael ei achub neu beidio.

Yn ôl Ifan Morgan Jones, sy'n ddarlithydd yn adran Newyddiaduraeth Prifysgol Bangor: "Os ydach chi'n edrych ar yr oes aur wreiddiol yn ail hanner y 19eg ganrif, roedd nifer uchel iawn o bapurau a chylchgronau.

"Roedd y mwya' poblogaidd - Baner ac Amserau Cymru - yn denu tua 15,000 o ddarllenwyr yr wythnos."

Cyfeiriodd at y ffaith bod tua 40,000 o ddefnyddwyr unigryw yn darllen BBC Cymru Fyw bob wythnos ar gyfartaledd, ac 20,000 yn darllen Golwg360 yn wythnosol: "Felly o ran pobl yn darllen newyddiaduraeth Gymraeg dwi ddim yn meddwl bod y sefyllfa wedi bod llawer mwy iach nac ydy o heddiw."

'Angen newid sylweddol'

Mae'n credu bydd yn anodd i Cyfeillion y Cymro, ond nid yn amhosib: "Pan wnaeth Y Cymro lansio i ddechrau wnaeth o wir weddnewid hanes papurau newydd yng Nghymru.

"Am y tro cynta' roedd ganddoch chi bapur poblogaidd, yn defnyddio lot o luniau a deunydd lot ysgafnach na'r papurau oedd wedi bod cynt.

"Mae cynulleidfa'r Cymro wedi mynd yn reit oedrannus erbyn hyn felly os ydy'r Cymro am gael ei achub mae'n rhaid newid yn sylweddol er mwyn dod o hyd i'r gynulleidfa newydd, ifancach yna."

Bydd Manylu hefyd yn gofyn sut mae cylchgrawn Golwg wedi llwyddo i gadw darllenwyr a newyddiadurwyr ers 30 mlynedd - yn groes i'r hyn sy'n digwydd mewn papurau ar draws Prydain a thu hwnt.

Dywedodd Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Dylan Iorwerth: "Un peth 'da ni wedi ei 'neud dros y blynyddoedd ydy cynyddu be' ydan ni yn ei wneud, ddim dibynnu ar un cylchgrawn, mae ganddo ni gylchgrawn dysgwyr, cylchgrawn plant, a Golwg 360.

"'Da ni yn cynhyrchu ein hincwm ein hunain. Dim ond 20% o be 'dan ni yn ennill sydd yn grant, ac mae pob elw yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn y cwmni achos dyna pam 'da ni yn bodoli - ar gyfer newyddiaduraeth a'r Gymraeg.

"Bysa Golwg ei hun byth wedi medru parhau ar ei ben ei hun oni bai am hyn."

Manylu, ddydd Iau am 12:30 ar Radio Cymru, ail-ddarllediad am 16:00 ddydd Sul, ac ar yr iPlayer.