Warburton i ddechrau i'r Llewod yn erbyn Seland Newydd

Sam Warburton

Mae blaenasgellwr Cymru, Sam Warburton wedi ei ddewis yn lle Peter O'Mahony i'r Llewod ar gyfer yr ail gêm brawf yn erbyn Seland Newydd yn Wellington ddydd Sadwrn.

Daeth Warburton ymlaen fel eilydd yn y gêm gyntaf pan gafodd y Llewod eu trechu 30-15.

Mae Alun Wyn Jones yn cadw ei le fel clo er gwaethaf cryn ddyfalu i'r gwrthwyneb, ond mae Maro Itoje yn disodli George Kruis yn safle'r clo arall.

Y newid mawr arall yw mai Johnny Sexton sydd wedi ei ddewis fel maswr gydag Owen Farrell yn symud i safle'r canolwr i bartneru Jonathan Davies.

Mae'r cefnwr Leigh Halfpenny yn colli ei le fel eilydd, gyda Jack Nowell wedi'i ddewis yn ei le.

Bydd asgellwr Cymru, George North yn dychwelyd adref ar ôl yr ail gêm brawf wedi iddo ddiofddef anaf i'w goes yn y gêm gyfartal 31-31 yn erbyn Hurricanes ddydd Mawrth.

Seland Newydd

I Seland Newydd, mae'r prif hyfforddwr Steve Hansen wedi cael ei orfodi i wneud dau newid i'r 15 wnaeth ddechrau yn y prawf cyntaf.

Mae'r asgellwr Waisake Naholo yn cymryd lle Ben Smith, tra bo Anton Lienert-Brown yn dechrau fel canolwr yn lle Ryan Crotty.

Tîm Y Llewod

L Williams, A Watson, J Davies, O Farrell, E Daly; J Sexton, C Murray; M Vunipola, J George, T Furlong, M Itoje, AW Jones, S Warburton (c), S O'Brien, T Faletau.

Eilyddion: K Owens, J McGrath, K Sinckler, C Lawes, CJ Stander, R Webb, B Te'o, J Nowell.

Tîm Seland Newydd

I Dagg; W Naholo, A Lienert-Brown, SB Williams, R Ioane; B Barrett, A Smith; J Moody, C Taylor, O Franks, B Retallick, S Whitelock, J Kaino, S Cane, K Read (c).

Eilyddion: N Harris, W Crockett, C Faumuina, S Barrett, A Savea, TJ Perenara, A Cruden, N Laumape.

Straeon perthnasol