Hyfforddwr tenis yn euog o droseddau rhyw

Dan Sanders Image copyright Andrew Price
Image caption Cafodd Dan Sanders ei ryddhau ar fechniaeth

Mae hyfforddwr tenis a cyn chwaraewr proffesiynol o Wrecsam wedi pledio'n euog i wyth cyhuddiad o droseddau rhyw gyda phlentyn.

Bydd Dan Sanders, 42 oed, yn cael ei ddedfrydu ar 27 Gorffennaf.

Fe wnaeth Sanders chwarae ei gêm broffesiynol olaf ym Mai 1996 ac yn ddiweddar bu'n hyfforddi chwaraewyr yng Nghymru.

Ddydd Gwener yn Llys y Goron Yr Wyddgrug dywedodd y barnwr Niclas Parry y bydd y ffaith i Saunders bledio'n euog ar y cyfle cyntaf posib yn cael ei adlewyrchu yn ei ddedfryd, ond fe fydd Sanders yn wynebu cyfnod yn y carchar.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan ei ymddangosiad nesaf.