Jade Jones yn anelu at Gamp Lawn

Jade Jones Image copyright Getty Images
Image caption Buddugoliaeth arall i Jade Jones yn Muju, De Corea

Mae Jade Jones gam mawr yn nes at gipio'r Gamp Lawn mewn Taekwondo.

Fe gurodd Jones ei gwrthwynebydd Chen Yu-chua 11-8 ym Mhencampwriaeth y Byd i gyrraedd y rownd gyn derfynol.

Mae Jones yn anelu at Gamp Lawn mewn pencampwriaethau rhyngwladol ar ôl ennill Pencampwriaethau Ewrop, Grand Prix y byd, a'r Gemau Olympaidd yn 2012 a 2016.

Dywedodd Jade Jones " Rydw i wrth fyd modd gyda fy mherfformiad heddiw. Mae wedi bod yn frwydr feddyliol fawr."

"Dwi ddim yn creu bod pobl yn deall pa mor anodd yw hi i fod ar y brig ...rwy'n hapus fy mod wedi profi fy mod yn gallu perfformio yn feddyliol a bod yn gryf.

"Dwi ddim wedi llwyddo i ennill pencampwriaeth y byd er gwaethaf y llwyddiant Olympaidd felly dwi'n hapus i fynd y tu hwnt i rownd yr wyth olaf."