Galw am ymchwiliad i Gylchffordd Cymru

Cylchffordd Cymru Image copyright Cylchffordd Cymru

Mae Plaid Cymru wedi galw am ymchwiliad annibynnol i penderfyniad gwreiddiol i wrthod prosiect Cylchffordd Cymru y llynedd.

Fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ar y pryd na ddylid cefnogi'r prosiect gan fod costau gwarantu'r prosiect wedi codi o £30m i £357m o fewn ychydig ddyddiau.

Mae e-bost gan y buddsoddwyr preifat Viva Investors, sydd wedi dod i law Plaid Cymru, yn dweud bod trafodaethau wedi bod yn digwydd dros gyfnod o fisoedd i sicrhau'r gefnogaeth lawn i'r prosiect.

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo'r Prif Weinidog Carwyn Jones o gamarwain y cyhoedd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedd y syniad o gefnogi'r prosiect yn llawn yn rhan o amrywiaeth o opsiynau a drafodwyd.

Image copyright Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd

Ym Mis Ebrill 2016 fy gyhoeddodd Edwina Hart, y gweinidog economi ar y pryd, na fyddai Llywodraeth Cymru'n barod i ysgwyddo'r baich o warantu'r prosiect £357m gan ddweud y byddai yn "risg annerbyniol" i'r llywodraeth.

Y diwrnod canlynol, dywedodd Carwyn wrth BBC Cymru: "Doedd y model a gyflwynwyd ddim yn mynd i weithio."

"Mae hynny yn ormod o lawer, fyddai dim un llywodraeth yn cytuno i hynny heb edrych yn fwy gofalus ar y model."

Pan ofynnwyd iddo pryd ddigwyddodd y newid, dwedodd Mr Jones: "O fewn y dyddiau diwethaf."

"Sylwadau camarweiniol"

Mae e-bost gan un o reolwyr Aviva Investors, Mark Wells, i sylfaenydd Prosiect Cylchffordd Cymru, Michael Carrick, yn dweud: " Ar y pryd, doedd y ffordd gafodd y prosiect ei wrthod ddim yn adlewyrchu yn dda ar Aviva Investors.

" Yn enwedig gan ei fod wedi ei ddyfynnu ein bod yn gofyn am gefnogaeth ariannol o 100% ychydig ddyddiau cyn y penderfyniad i wrthod.

"Ond mewn gwirionedd roedden ni wedi trafod hyn gyda Llywodraeth Cymru (trwy weision sifil) am fisoedd lawer a doedd dim byd wedi newid cyn y cyhoeddiad hwn.

Dywedodd Adam Price AC Plaid Cymru : "Yn anffodus mae'r prosiect yma wedi ei nodweddu gan gyfres o sylwadau camarweiniol gan y llywodraeth, mae'n debyg i gyfiawnhau eu safbwynt yn wyneb beirniadaeth posib."

Image copyright Cylchffordd Cymru

Dywedodd lefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fel rydym wedi datgan yn glir bu swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio yn agos â'r datblygwyr er mwyn gwneud i brosiect Cylchffordd Cymru weithio i Gymru."

"Rhwng Awst 2015 a Mawrth 2016 cafodd amrywiaeth o opsiynau cyllido eu trafod. Yn dilyn y trafodaethau cychwynnol yma, yr hyn ddilynodd oedd cais gan y datblygwyr a oedd yn gofyn i'r llywodraeth warantu £357m."

"Unwaith i'r cyn weinidog economi ystyried y mater be benderfynwyd nad oedd hyn yn adlewyrchu gwerth am arian i'r trethdalwr."