Y Frenhines yn gwerthu Marina Deganwy

Deganwy Marina Image copyright Cooke & Arkwright

Mae Ystâd y Goron yn ceisio gwerthu Marina Deganwy am bris o £2.5m.

Mae'r marina yn aber afon Conwy yn gartref i 165 o gychod ac mae swyddfeydd a gweithdai yno hefyd.

Ar hyn o bryd cwmni Quay Marinas Cyf yw rheolwyr y safle.

Mae Ystâd y Goron yn eiddo i'r Frenhines, ond mae bwrdd annibynnol yn rheoli materion ymarferol eu heiddo.

Yn ôl yr asiant sy'n gwerthu'r marina, Cooke & Arkwright, mae'r gwerthiant yn "gyfle ffantastig i berchennog newydd" ac mae ganddo "awyrgylch arbennig ar gyfer yr hwyliwr craff."