Arbenigwyr yn disgwyl i Gymru fethu targed allyriadau

Ceir Image copyright Reuters
Image caption Mae'r adroddiad yn dweud bod angen hybu'r defnydd o geir trydan

Mae'r targed o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru 40% erbyn 2020 yn debygol o gael ei fethu, medd pwyllgor o arbenigwyr.

Mae adroddiad diweddaraf y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (CCC), sy'n cynghori llywodraethau'r Deyrnas Unedig, yn dangos bod allyriadau wedi cynyddu yng Nghymru 0.5% y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2009 a 2015.

Er hynny, roedd cwymp o 1.2% yn 2015 oherwydd lleihad yn nifer yr allyriadau o ddiwydiant.

Mewn cymhariaeth, mae'r Alban yn debygol o gyrraedd eu targed hwythau erbyn 2020, yn ôl yr adroddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod bod angen gweithredu pellach", a bod Deddf yr Amgylchedd yn gosod nod o ostyngiad hirdymor o o leiaf 80% erbyn 2050.

'Gweithredu ar frys'

Mae gan Gymru darged anstatudol i leihau allyriadau carbon 40% o'i gymharu â lefelau 1990 erbyn 2020.

Yn 2015, daeth y CCC i'r casgliad bod allyriadau 20% yn llai nag yn 1990, o'i gymharu â 38% yn llai ar draws y DU.

Mae allyriadau o drafnidiaeth wedi cynyddu am ddwy flynedd yn olynol yng Nghymru, ac yn wahanol i weddill y DU, doedd dim newid yn allyriadau'r sector ynni yn 2015.

Mae'r adroddiad yn dadlau bod angen "gweithredu ar frys" mewn meysydd lle mae grymoedd wedi'u datganoli.

Mae'n awgrymu mynd i'r afael â methiannau wrth gyrraedd targedau plannu coed, cyflwyno mwy o fesurau i wella effeithlonrwydd ynni a gwres mewn adeiladau a hybu'r defnydd o geir trydan.

Lle nad yw grymoedd wedi'i datganoli, "mae'n bwysig gweithio ar y cyd gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y fframwaith cyffredinol yn ddigon cryf i sicrhau'r lleihad angenrheidiol mewn allyriadau," meddai'r adroddiad.

Er hynny, mae cynnydd da wedi'i wneud o ran ynni adnewyddadwy ac ailgylchu, yn ôl yr adroddiad.

Mae'r targed i gynhyrchu 7TW yr awr o drydan o ffynonellau adnewyddadwy yng Nghymru erbyn 2020 yn debygol o gael ei gyrraedd, tra bod Cymru'n arwain gweddill y DU o ran lefelau ailgylchu.

Image copyright Getty Images
Image caption Roedd cwymp o 1.2% mewn allyriadau yng Nghymru yn 2015 oherwydd lleihad yn nifer yr allyriadau o ddiwydiant

Dywedodd Jessica McQuad, swyddog polisi mudiad amgylcheddol WWF Cymru, fod yr adroddiad yn achos rhwystredigaeth: "Mae Llywodraeth Cymru wedi gwybod ers sawl blwyddyn bod yn rhaid i ni ddwysau'r gweithredu er mwyn gostwng allyriadau.

"Ond mae ffigyrau heddiw'n dangos unwaith eto nad yw'r cymhelliant a'r rhaglenni yng Nghymru yn cael yr effaith sydd ei angen.

"Mae'r adroddiad yn awgrymu nifer o feysydd lle gall Llywodraeth Cymru ddatblygu rhaglenni newydd, fel gwres adnewyddiadwy, a fframwaith bolisi gryfach ar ostwng llyriadau amaethyddol.

"Rydym yn gobeithio gweld ymrwymiad a chynlluniau gan Lywodraeth Cymru i weithredu yn y meysydd hyn."

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru osod lefelau ei dwy gyllideb carbon cyntaf yn 2018, wedi iddi gael gyngor gan CCC.

Croesawu'r adroddiad

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r adroddiad "sy'n pwysleisio fod Cymru'n arwain y ffordd gyda'r lefelau ailgylchu uchaf drwy'r DU, a'n bod unwaith eto wedi cwrdd a'n targed o 3%.

"Mae Cymru'n creu cyfran uchel o drydan a diwydiant trwm y DU ac yn allforio mwy nag y mae'n ei fewnforio.

"Mae trydan sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru'n bwydo i mewn i'r grid cenedlaethol ac yn cael ei ddefnyddio gan gartrefi a busnesau ar draws y DU.

"O ystyried yr allforion ynni hyn, mae allyriadau sy'n seiliedig ar ddefnydd ynni Cymru wedi gostwng yn sylweddol ers 1990.

"Rydym yn cydnabod bod angen gweithredu pellach ac mae Deddf yr Amgylchedd yn gosod nod o ostyngiad hirdymor o o leiaf 80% erbyn 2050.

"Edrychwn ymlaen at groesawu'r Pwyllgor i Gymru yr wythnos nesaf pan fyddan nhw'n cyhoeddi galwad am dystiolaeth i'n helpu ni i ddatblygu ein targedau deddfwriaethol dros dro a'n cyllidebau carbon."