Rheolau newydd i ddiogelu ysgolion gwledig

Ysgol Mynyddcerrig

Mae rheolau newydd ynglŷn â chadw ysgolion gwledig ar agor wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wedi dweud mai cau ysgolion ddylai fod y cam olaf, ar ôl ystyried yr holl effeithiau ar y gymuned leol.

Am y tro cyntaf, bydd ysgolion gwledig yng Nghymru yn cael eu diffinio'n benodol, gyda Llywodraeth Cymru yn ffurfio rhestr o 'ysgolion gwledig' er mwyn eu diogelu ymhellach.

Bydd newid hefyd i'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, sef y drefn sy'n rhoi arweiniad wrth wneud penderfyniadau am ysgolion.

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud nad ydy'r rheolau'n mynd i'r afael â diffyg buddsoddiad, tra bod Plaid Cymru'n dweud bod rhaid "cydnabod y gost ychwanegol i gynghorau".

'Gwrandawiad teg'

Dywedodd Mrs Williams bod ysgolion gwledig "yn galon i'w cymunedau" ac y dylen nhw gael "gwrandawiad teg".

Yn y gorffennol, mae cynghorau sir wedi cau rhai o ysgolion gwledig sydd â nifer bach o ddisgyblion ar draws Cymru, gyda nifer o rieni'n brwydro yn erbyn y penderfyniadau.

Mae Mrs Williams hefyd yn annog ffederaleiddio ysgolion ac y bydd rhaid i lywodraethau lleol egluro pam mai cau'r ysgol yw'r cam mwyaf priodol i'w gymryd.

Bydd rhaid hefyd ystyried yr effaith ar addysg y plant a threfniadau teithio'r disgyblion.

Er mwyn rhoi cyfle i gymunedau gymryd rhan yn y broses o benderfynu, bydd rhaid i unrhyw ymgynghoriad gael ei gyhoeddi ar ddiwrnod ysgol.

Dywedodd Kirsty Williams: "Mae'r cynigion hyn yn cryfhau'r Cod Trefniadaeth Ysgolion er mwyn sicrhau bod cynghorau'n gwneud popeth yn eu gallu i gadw ysgol wledig ar agor cyn penderfynu ymgynghori ynghylch cynnig i gau'r ysgol.

"Os cynhelir proses ymgynghori i gau ysgol, mae'n rhaid ystyried pob dewis ac awgrym sy'n deillio o hynny cyn gwneud penderfyniad.

"Mae'n bosibl fod hynny'n cynnwys ffurfio ffederasiwn gydag ysgolion eraill neu gynyddu defnydd y gymuned o'r adeiladau er mwyn gwneud yr ysgol yn fwy hyfyw."

Y llynedd, cyhoeddodd Kirsty Williams grant newydd gwerth £2.5m y flwyddyn ar gyfer ysgolion bach ac ysgolion gwledig.

Image caption Mae cau ysgolion bach wedi bod yn bwnc llosg yn y Gymru wledig

Dywedodd Llyr Gruffudd, llefarydd Plaid Cymru ar addysg, ei fod yn croesawu'r cyhoeddiad ond fod angen sicrhau fod digon o gyllid ar gael.

"Os ydi'r llywodraeth am fynnu cadw ysgolion bach ar agor, rhaid hefyd cydnabod y gost ychwanegol i gynghorau mewn cyfnod o gynni a thoriadau", meddai.

"Byddaf yn gofyn am sicrwydd na fydd y Cod newydd yma'n golygu arian yn cael ei golli i'n hysgolion mwy trefol. Mae £2.5m yn gyfystyr â £110,000 i bob sir yng Nghymru - eith hynny ddim yn bell iawn."

'Torcalon i ddisgyblion'

Ond beirniadu'r rheolau newydd wnaeth llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

"Mae diffyg gweithredu ar ran Llywodraeth Lafur Cymru i atal cau ysgolion wedi achosi torcalon a thrafferthion i ddisgyblion, rhieni ac athrawon - heb sôn am niwed i'r economi wledig.

"Fydd y mesurau yma'n gwneud dim i wneud yn iawn am y boen sydd wedi'i achosi'n barod, na mynd i'r afael â'r tanfuddsoddi parhaol, sef y rhwystr mwyaf i gadw ysgolion gwledig ar agor."