Morgannwg yn colli o 39 rhediad yn erbyn Sir Derby

Criced Image copyright TRYDAR @DEESERVE

Colli o 39 rhediad oedd hanes Morgannwg ar y diwrnod olaf y chwarae yn erbyn Sir Derby.

Roedd hi'n ddiwrnod i'w gofio i'r bowliwr ifanc 16 oed, Hamidullah Qadri, i Sir Derby wrth iddo ennill y gêm i'r ymwelwyr gyda'i bumed wiced.

Roedd Andrew Salter yn anhapus i gael ei alw allan i Forgannwg gyda choes cyn wiced ac yntau wedi llwyddo i gael naw rhediad yn unig.

Roedd Morgannwg allan i gyd am 172 gyda Sir Derby yn ennill eu gêm bencampwriaeth gyntaf ers bron i ddwy flynedd.