Cynghrair Europa: Noson gymysg i dimau Cymru

Lyngby v Bangor Image copyright Getty Images
Image caption Colli o 1-0 oedd hanes Bangor yn erbyn Lyngby

Canlyniadau cymysg i dri thîm o Gymru oedd yn cystadlu yn rownd ragbrofol cyntaf Cynghrair Europa nos Iau.

Lyngby 1-0 Bangor

Colli oedd hanes Bangor wrth iddyn nhw wynebu Lyngby, a orffennodd yn drydedd llynedd yn uwch gynghrair Denmarc.

Fe sgoriodd Lyngby wedi 13 munud, drwy'r ymosodwr Bror Blume gyda'i ergyd bwerus o du allan y cwrt cosbi. Bydd Bangor yn falch o deithio adref gyda dim ond gol o wahaniaeth.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Stadiwm Prifysgol Bangor nos Iau 8 Gorffennaf.

Cei Connah 1-0 HJK Helsinki

Dyma ganlyniad mwyaf annisgwyl y noson o bosib wrth i Gei Connah lwyddo i ennill yn erbyn HJK Helsinki o'r Ffindir.

Yn ystod y gêm a gafodd ei chwarae yn stadiwm Prifysgol Bangor, sgoriodd Nathan Woolfe i'r Nomadiaid 5 munud cyn hanner amser.

Er i'r pwysau gan yr ymwelwyr gynyddu yn ystod yr ail hanner, llwyddodd Cei Connah i amddiffyn yn gadarn ac ennill y gêm.

Bydd Cei Connah yn teithio i'r Ffindir ar gyfer yr ail gymal fydd yn cael ei chwarae Nos Iau 8 Gorffennaf.

Y Bala 1-2 FC Vaduz

Bydd y Bala yn teithio i Vaduz yn Liechtenstein yn siomedig eu bod wedi colli yn y Rhyl ond yn falch o sgorio gôl a allai brofi i fod yn bwysig yn yr ail gêm.

Roedd Y Bala ar ei hol hi wedi 21 o funudau diolch i gol gan Zarate. Cyn i'r Bala allu ymateb roedd yr ymwelwyr ddwy i fyny wedi gôl gan Brunner.

Sgoriodd y Capten Chris Venables gôl bwysig i'r Bala wedi 61 o funudau i gadw ei gobeithion yn fyw ar gyfer yr ail gymal fydd yn cael ei chwarae nos Iau 8 Gorffennaf.