Cyfieithu 'yn hollbwysig' i lên Cymru
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Mwy o nawdd cyfieithu yn hollbwysig' i lên Cymru

30 Mehefin 2017 Diweddarwyd 07:56 BST

Mae angen mwy o gefnogaeth i gyfieithu llenyddiaeth o Gymru, yn ôl awdur blaenllaw.

Dywedodd Caryl Lewis, enillydd gwobr Llyfr y Flwyddyn ar ddau achlysur, bod angen nawdd pellach fel bod llên Cymru'n "cael ei gweld ar draws Ewrop."

Yn ôl y corff sy'n ariannu cyfieithiadau llenyddol o Gymru, mae llai o grantiau ar gael yma nac mewn gwledydd fel Y Ffindir a Gwlad y Basg.

Ond mae Cyfnewidfa Lên Cymru hefyd yn dweud mai nid nawdd yw'r unig ffordd o gefnogi'r diwydiant.