Addysg Gymraeg bob tro?

Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost
Image caption Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost

Yr wythnos diwethaf fe lwyddodd erthygl gan bapur newydd The Guardian i gorddi'r dyfroedd go iawn.

Fe gyhuddodd yr ysgrifennydd addysg, Kirsty Williams, y papur o roi "camargraff ddifrifol" o addysg Gymraeg yn dilyn y darn ar y ffrae am Ysgol Llangennech yn Sir Gâr.

Fe wnaeth The Guardian ddefnyddio ymchwil Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost, ieithydd ac awdur o Brifysgol Caerdydd, fel tystiolaeth fod addysg cyfrwng Gymraeg "ddim yn gweithio yn y tymor hir".

Mae'n egluro ei safbwynt wrth Cymru Fyw:


Mamiaith - lles mwyaf i'r plentyn

Yn ddelfrydol, bydd polisi cyhoeddus ar addysg statudol mewn iaith leiafrifol yn seiliedig ar nifer o egwyddorion a rhai ffeithiau gwyddonol neilltuol.

O'r ffeithiau gwyddonol, mae yna gonsensws yn yr ymchwil mai addysg trwy gyfrwng y famiaith sydd o'r lles mwyaf i blentyn. Mae yna hefyd gorff o waith ymchwil sy'n cadarnhau manteision addysg ddwyieithog.

Wrth ddewis iaith fel cyfrwng ar gyfer darparwr addysg statudol rhaid talu sylw i iaith, neu ieithoedd, swyddogol y wlad.

Mae'r Gymraeg, wrth gwrs, yn iaith sydd â statws swyddogol yng Nghymru.

Mwy am ffrae Ysgol Llangennech

Dewis iaith yn bwysig

Wrth ddewis iaith, neu ieithoedd, fel cyfrwng darparwr addysg statudol rhaid hefyd rhoi sylw i brif iaith y gymuned leol.

Mae'r Gymraeg, wrth gwrs, yn brif iaith y gymuned mewn rhai mannau yng Nghymru; Saesneg yw'r brif iaith mewn mannau eraill.

Mae'n bwysig hefyd i ddewisiadau rhieni fod yn ystyriaeth sylweddol.

Image caption Cafodd erthygl y Guardian ei chyhoeddi yn y papur ac ar-lein ar 20 Mehefin

Rhaid bod yna gyfiawnhad arbennig dros wneud iaith yn brif gyfrwng addysg statudol mewn cyd-destun lle nad yw'n famiaith i'r plant, yn brif iaith y gymuned leol, na dewis y rhieni ychwaith.

Mae'r ymchwil ym maes polisi a chynllunio ieithyddol yn awgrymu bod modd i gymdeithas ryddfrydol, ddemocrataidd wireddu'r amcan polisi cyhoeddus o gynnal iaith leiafrifol trwy wahanol fathau o gefnogaeth sefydliadol, gan gynnwys trwy'r system addysg.

Mae rhai yn disgrifio hyn fel adfywio ieithyddol [language revitalisation]. Mewn geiriau eraill, bydd addysg statudol yn yr iaith leiafrifol, fel rheol, yn cynnal niferoedd o siaradwyr brodorol i raddau helaeth yn ogystal â chreu rhai siaradwyr newydd a fydd yn defnyddio'r iaith honno fel eu dewis iaith. Mae achos yr iaith Wyddeleg yng Ngweriniaeth Iwerddon yn enghraifft dda o hyn.

Diffyg tystiolaeth gadarn

Ond, wedi dweud hynny, does 'na ddim tystiolaeth gadarn mewn unrhyw waith ymchwil i ddangos bod yr amcan polisi cyhoeddus o wrthdroi shifft ieithyddol [reversing language shift - RLS] mewn perthynas ag iaith sydd mewn sefyllfa leiafrifol yn ymarferol bosibl i'w gyflawni mewn cymdeithas ryddfrydol, ddemocrataidd, a hynny er gwaethaf gwahanol fathau o gefnogaeth sefydliadol.

Mewn geiriau eraill, dyw'r ymchwil ddim yn cynnig unrhyw dystiolaeth bod addysg statudol mewn iaith leiafrifol yn creu niferoedd sylweddol o siaradwyr newydd i'r graddau y mae modd troi iaith leiafrifol yn un fwyafrifol.