Taekwondo: Medal efydd i Jade Jones

Jade Jones
Image caption Roedd Jade Jones yn anelu at y gamp lawn ar ôl ennill aur yn Rio 2016

Mae'r bencampwraig Olympaidd Jade Jones wedi cipio medal efydd ym Mhencampwriaeth Taekwondo y Byd yn Ne Corea.

Collodd Jones o 14-8 yn y rownd gynderfynol i'r ffefryn Lee Ah-reum o Dde Corea.

Mae'r fedal yn ychwanegu at y fedal arian enillodd ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2011.

Mae'r canlyniad yn golygu nad yw Jones wedi cyflawni ei huchelgais o ennill Pencampwriaeth y Byd a champ lawn o bencampwriaethau rhyngwladol.

Mae gan Jones fedalau aur Olympaidd ac mae eisoes wedi ennill Grand Prix y Byd a Phencampwriaeth Ewrop.

"Ambell waith ti'n colli, ac mae'n rhai i mi fyd i i ffwrdd ac ymarfer y galetach," meddai.

"Nes i ddim gwneud digon."