Moment police arrest man with machete
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Arestio dyn â chyllell fawr yng Nghaerdydd

30 Mehefin 2017 Diweddarwyd 22:10 BST

Dyma'r foment pryd y cafodd dyn gyda chyllell machete yn ei feddiant ei arestio yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd.

Cafodd dau o ddynion eu harestio i gyd - un dyn 27 oed ar amheuaeth o achosi ffrwgwd, a dyn 19 oed ar amheuaeth o ymddwyn yn fygythiol.

Cafodd y ddau eu harestio ar Heol Saunders, ond dywedodd yr heddlu nad oedd y digwyddiad yn gysylltiedig â chyngerdd Justin Beiber yn Stadiwm Principality.

Ni chafodd unrhyw un anafiadau.

Anfonwyd y ffilm hon gan George Petrov.