Chelsea'n arwyddo Ethan Ampadu

Ampadu Image copyright Rex Features
Image caption Cafodd Ampadu ei gynnwys yng ngharfan Chris Coleman ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd Cymru yn erbyn Serbia

Mae pencampwyr Uwchgynghrair Lloegr Chelsea wedi arwyddo'r peldroediwr Ethan Ampadu, fu'n ymarfer gyda charfan Cymru cyn Euro 2016.

Mae'r amddiffynwr 16 oed wedi chwarae i dimau dan 16 a dan 19 Cymru.

Cafodd ei gynnwys yng ngharfan Chris Coleman ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd Cymru yn erbyn Serbia ym mis Mai, ond wnaeth e ddim chwarae ac mae e eto i ennill ei gap cyntaf.

Chwaraeodd Ampadu 13 o weithiau i Gaerwysg yn 2016-17 ar ôl dod drwy academi'r clwb.