Arian chwaraeon: 'Disgwyliadau afrealistig'

chwarae pêl-droed
Image caption Cafodd 2,000 o fechgyn a merched eu hysbrydoli i chwarae pêl-droed gan berfformiad Cymru yn Ewro 2016

Mae angen rhagor o arian ar chwaraeon ar lawr gwlad i sicrhau fod pobl yn cadw'n heini, yn ôl adain ddatblygu Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywedodd Neil Ward, prif weithredwr ymddiriedolaeth y gymdeithas fod cyllidebau chwaraeon yn crebachu a bod hynny'n arwain at ddisgwyliadau "afrealistig".

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "llwyr ymrwymiedig i sicrhau fod Cymru'n genedl iachach a mwy heini".

Ond, mae ei nawdd drwy Chwaraeon Cymru wedi gostwng 14% o fewn y saith mlynedd diwethaf.

Dywedodd Mr Ward wrth Raglen BBC Cymru, Sunday Politics Wales ei fod yn poeni am yr hyn y gellid ei gyflawni gyda chyllideb Chwaraeon Cymru o ryw £22m y flwyddyn.

Image caption Mae Neil Ward yn galw am fuddsoddiad mewn adnoddau ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad

Daw ei sylwadau flwyddyn wedi buddugoliaeth hanesyddol Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn rowng gogynderfynol Ewro 2016.

Dywedodd Mr Ward fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi ei elw o'r bencampwriaeth - tua £4m - ar brosiectau isadeiledd fyddai o fudd i bêl-droed ar lawr gwlad.

Ond ychwanegodd bod angen rhagor o arian cyhoeddus hefyd.

"Mae'r Llywodraeth yn mynd i fod yn gofyn i'r sector chwaraeon i wneud mwy â'r £20m nag y mae'n ei wneud ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i chwaraeon wneud mwy â chyllideb sy'n crebachu yn afrealistig."

"Mae hyn yn fater o iechyd cyhoeddus", meddai.

"Os nad ydyn ni'n amddiffyn y cyfleusterau, os ydyn ni'n parhau i godi mwy am y cyfleusterau, mae hynny'n golygu y bydd bobl yn gorfod talu mwy.

"Mwy na thebyg y byddan nhw'n ymhellhau ymhellach o gadw'n heini, ac ry' ni'n gwybod bod miliwn o bobl yng Nghymru sydd ddim yn gwneud ymarfer corff."

Image copyright Getty Images
Image caption Mae gôl Hal Robson-Kanu yn erbyn Gwlad Belg yn Ewro 2016 flwyddyn yn ôl wedi ysbrydoli cenhedlaeth newydd o blant

Dywedodd Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod 900 o fechgyn a 1,100 o ferched wedi dechrau chwarae'r gêm yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl yr Athro Laura McAllister, sy'n gyn chwaraewr rhyngwladol ac yn aelod o fwrdd ymddiriedolaeth CBC, y broblem fwyaf yw dod o hyd i le iddyn nhw chwarae.

"Dydyn nhw ddim elwach o gael eu hysbrydoli gan Gareth Bale, Aaron Ramsey a Jo Allen os ydyn nhw wedyn yn mynd allan i chwarae a bod dim digon o gaeau ar gael iddyn nhw fwynhau'r gêm", meddai.

"Roedd ein gwleidyddion ni'n dathlu llwyddiant yr Ewros cymaint â'r cyhoedd, ond mae 'na amser yn dod pan fod rhaid i ni weithredu ar hynny."

'Sicrhau canlyniadau gwell'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Beth sy'n rhaid i ni ei wneud yw parhau i ganolbwyntio ar wahanol ffyrdd gydweithio er mwyn gwneud y gorau o'n buddsoddiad mewn chwaraeon a chadw'n heini, a sicrhau canlyniadau gwell, fel bod y lefelau presennol yn arwain at arferion cadw'n heini gydol oes, gan annog y rhai hynny sy'n byw bywyd segur i fod yn fwy actif.

"Rydym hefyd yn cydnabod pwysicrwydd sicrhau bod angen gwell cyfleusterau i bobl cymryd rhan mewn chwaraeon a chadw'n heini ac rydym yn cynnal adolygiad ar gyfleusterau er mwyn i ni gael gwell dealltwriaeth o'n blaenoriaethau yn y dyfodol."

Dywedodd llefarydd ar ran Chwaraeon Cymru, sy'n dosbarthu nawdd chwaraeon y llywodraeth, ei fod yn buddsoddi mewn cynlluniau i ddatblygu caeau chwarae artiffisial newydd, a bod gwariant pellach ar y ffordd.