Anafu heddweision wedi digwyddiad yng Nghaernarfon

Four Alls Image copyright Geograph

Mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i ddigwyddiad mewn tafarn yng Nghaernarfon ble cafodd tri heddwas, oedd ddim ar ddyletswydd ar y pryd, eu hanafu.

Fe gafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad yn nhafarn y Four Alls am tua 22:50 nos Sadwrn.

Cafodd tri heddwas oedd ddim ar ddyletswydd eu hanafu - dau ohonynt yn ddifrifol - ond maen nhw bellach wedi cael mynd adre o'r ysbyty.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi lansio ymchwiliad i'r digwyddiad ac yn apelio i unrhyw dystion i'r "helynt" i gysylltu â'r llu.

Maen nhw hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd yn gwybod pwy oedd yn gyfrifol am y digwyddiad.