Geraint Thomas yn cadw crys melyn y Tour de France

Team Sky Image copyright Getty Images
Image caption Mae cyd-seiclwr Geraint Thomas gyda Team Sky, Chris Froome (dde) wedi codi i'r ail safle yn y ras

Bydd Geraint Thomas yn parhau i wisgo'r crys melyn fel arweinydd y Tour de France ddydd Mawrth wedi iddo orffen yn wythfed yn nhrydydd cymal y ras.

Mae'r Cymro wedi ymestyn ei fantais ar y brig i 12 eiliad.

Peter Sagan o Slofacia oedd yn fuddugol ddydd Llun, ond dim ond dwy eiliad y tu ôl iddo oedd Thomas.

Roedd y ddau ymysg llond llaw o seiclwyr oedd wedi llwyddo i aros ar y blaen ar gymal oedd â diwedd anodd yn dringo i gymuned Longwy.

Llwyddodd cyd-seiclwr Thomas gyda Team Sky, Chris Froome, i orffen yn yr un grŵp, gan olygu ei fod yn codi i'r ail safle yn y ras.

Bydd y pedwerydd cymal ddydd Mawrth yn gweld y seiclwyr yn teithio 207.5 cilomedr o Mondorf-les-Bains yn Lwcsembwrg i Vittel yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc.

Thomas fydd y ffefryn i aros mewn melyn, gyda disgwyl i'r cymal orffen gyda sbrint o'r peloton.

Tabl y Tour de France wedi tri chymal

1. Geraint Thomas (Prydain/Team Sky) 10:53'10"

2. Chris Froome (Prydain/Team Sky) +12 eiliad

3. Michael Matthews (Awstralia/Sunweb) +12 eiliad

4. Peter Sagan (Slofacia/Bora-Hansgrohe) +13 eiliad

5. Edvald Boasson Hagen (Norwy/Dimension Data) +16 eiliad

Straeon perthnasol