Penodi pedwar AS o Gymru i gabinet Llafur

Gerald Jones, Carolyn Harris, Chris Ruane a Nick Thomas-Symonds
Image caption Mae swyddi newydd i Gerald Jones, Carolyn Harris, Chris Ruane a Nick Thomas-Symonds

Mae Jeremy Corbyn wedi aildrefnu ei fainc flaen gyda nifer o aelodau seneddol o Gymru cael ei lle ar fainc Llafur.

Wedi iddo adennill sedd Dyffryn Clwyd yn yr etholiad cyffredinol, mae Chris Ruane wedi cael ei enwi fel gweinidog cysgodol Swyddfa Cymru.

Mae aelod Merthyr Tudful a Rhymni, Gerald Jones, yn symud o Swyddfa Cymru i fod yn weinidog cysgodol yn yr adran amddiffyn tra bod AS Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris yn dod yn weinidog yn yr adran dros Ferched a Chydraddoldeb.

Mae Nick Thomas-Symonds, AS Torfaen, hefyd yn un o bedwar gweinidog dros Faterion Cartref.