Teyrngedau i ddyn fu farw ar barti cyn priodi yng Ngroeg

Ben Davies Image copyright Llun teulu
Image caption Roedd Ben Davies yn gweithio i'r Blaid Geidwadol yng Nghymru ers dwy flynedd

Mae'r blaid Geidwadol yng Nghymru wedi talu teyrnged i un o'i cynorthwywyr ar ôl iddo farw yn dilyn damwain ar ei barti cyn priodi (stag).

Bu farw dirpwy bennaeth staff y blaid yn y Cynulliad, Ben Davies oedd yn 32 oed o Gaerdydd ar ynys Mykonos yng Ngroeg, ddydd Sul.

Y gred yw bod Mr Davies wedi disgyn ac anafu ei ben, roedd mewn coma am dros wythnos.

Dywedodd ffrind agos i Mr Davies, Vincent Bailey: "Roedd yn eithriadol o alluog ac yn gymeriad mawr.

"Mi fydd yn amhosib ei anghofio", meddai.

Roedd Mr Davies yn gweithio i'r blaid ers dwy flynedd ar ôl iddo raddio o Rydychen.

Roedd disgwyl iddo briodi ei gymar, Emily Russ yng Nghaerdydd mewn tair wythnos.

Ychwanegodd Mr Bailey: "Mae pawb yn meddwl am Emily ar hyn o bryd."

Yn gynharach fe gafodd aelodau o'r blaid e-bost gan Gyfarwyddwr y Ceidwadwyr yng Nghymru, Richard Minshull yn canmol Mr Davies, yn enwedig ei waith gydag ymgeiswyr Etholiad y Cynulliad llynedd.