Teyrngedau i'r llenor Tony Bianchi
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Teyrngedau i'r llenor 'mwyn a hawddgar' Tony Bianchi

4 Gorffennaf 2017 Diweddarwyd 10:44 BST

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r llenor Tony Bianchi fu farw'n 65 mlwydd oed.

Cafodd ei fagu yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, cyn mynd ati i ddysgu'r Gymraeg ym Mhrifysgol Llambed.

Yn awdur saith nofel, bu'n gyfarwyddwr llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru am flynyddoedd.

Fe enillodd ddwy brif wobr rhyddiaith y Brifwyl - y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen. Aled Huw sy'n edrych 'nôl dros ei fywyd.