Hawl i fod yn fi fy hun

john stevenson

Mae hi'n 50 mlynedd yr wythnos hon ers i ddeddf hawliau dynol arwyddocaol ddod i rym. Cyn 1967 roedd hi'n anghyfreithlon i ddau ddyn gael perthynas rywiol.

Y newyddiadurwr John Stevenson sy'n sôn am bwysigrwydd y ddeddf iddo ef yn bersonol a'r newidiadau ddaeth yn ei sgil:


Meri jên, cadi ffan, rêl pansan, nansi boi. Dyna ddetholiad o rai o'r geiriau ffiaidd a brwnt oedd yn gymaint o ran o lafar gwlad yn yr oes a fu wrth sôn am bobol hoyw.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl yn 1924 yr enillodd Prosser Rhys Goron yr Eisteddfod Genedlaethol, am ei bryddest 'Atgof'.

Gan fod y gerdd yn ymwneud â theimladau hoyw llanc ifanc, roedd yna gryn gynnwrf ac adwaith cryf yn ei erbyn ar y pryd ymhlith rhai darllenwyr mewn gwlad oedd, yn enwedig mewn cylchoedd capelyddol, yn bur homoffobig. Mae'n hysbys pwy oedd y dyn ifanc mae'r bryddest yn cyfeirio ati a pharhaodd llawer fethu (neu wrthod) gweld ei rhinweddau llenyddol.

Image copyright Cyngor Sir Ceredigion
Image caption Prosser Rhys, bardd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl 1924

'Chwalu hen safonau'

Roedd cerdd Prosser Rhys yn adlewyrchu'r chwalu ar yr hen safonau a oedd yn digwydd mewn diwylliannau eraill yn Ewrop ar ôl y Rhyfel Mawr.

Mae'n eironig, ac yn gyd-ddigwyddiad llwyr wrth gwrs, fod cam pwysig arall i bobol hoyw wedi digwydd oherwydd gweithred ddigwyddodd hanner canrif i eleni. Roy Jenkins oedd Ysgrifennydd Cartref y Llywodraeth Lafur yn 1967 pan gafodd y gyfraith ei diwygio. Cyd-ddigwyddiad oherwydd bod Roy Jenkins, wrth gwrs, yn enedigol o Abersychan ger Pont-y-pŵl.

Does dim cwestiwn nad oedd y newid cyfreithiol wedi gwneud bywyd llawer haws i lawer o bobol hoyw - finnau yn eu plith!

Ers bod yn 13 oed, roeddwn yn ymwybodol mod i'n 'wahanol' ond mewn ofn parhaol oherwydd fod bod yn hoyw yn groes i'r gyfraith ac yn groes i holl werthoedd y dosbarth gweithiol y gymdeithas Gymreig cefais fy magu ynddi.

Yn 1967, ro'n i yn 16 oed a fy llygaid ar fynd i brifysgol a chael fy newis yn y man i ddilyn yr aelod seneddol lleol, pan roedd o yn ymddeol. Y gwir yw na fyddai'r un blaid wleidyddol wedi dewis unrhyw un oedd yn hoyw i fod yn ymgeisydd ar eu rhan. Oedd, wrth gwrs, roedd 'na bobol hoyw yn y Senedd ond yn byw mewn ofn parhaol o gael eu henwi gan y News of the World.

Diwrnod arwyddocaol i lawer yng Nghymru oedd y dydd i'r gyfraith newid a hynny ddegawd ers i Adroddiad Wolfenden (1957) argymell y dylid newid y gyfraith, yn ymwneud â gweithredoedd o'r fath.

Image caption Gorymdaith Pride Cymru. Mae agweddau cymdeithas at y gymuned hoyw wedi newid yn aruthrol ers pasio Deddf Troseddau Rhywiol 1967

Pwnc dadleuol

Mewn rhaglen ddogfen gafodd ei chynhyrchu a'i chyflwyno gennyf yn gynnar yn yr 80au ar Radio Cymru, cefais y dasg o ddarparu'r rhaglen gyntaf yn y Gymraeg yn ymdrin â phwnc dadleuol o fod yn hoyw yn y Gymru Gymraeg. Meirion Edwards oedd Golygydd yr orsaf bryd hynny a'i benderfyniad dewr o oedd gofyn i mi wneud y rhaglen.

Do, cefais ymateb cymysg a ffiaidd gan rai, ond anghofia i fyth gerdyn post dienw, wedi ei anfon o rywle yn y Canolbarth. "Diolch am y rhaglen, roeddwn i'n meddwl mai fi yw'r unig un yn y byd".

Sawl person arall, yn fechgyn a merched, oedd wedi profi'r un gwewyr enaid oherwydd ceisio bod yn fo neu hi ei hun? Oes, mae dagrau bron yn cronni yn fy llygaid o hyd wrth feddwl am y boen ddioddefodd yr unigolyn hwnnw o geisio dygymod gyda'r gwirionedd amdano ei hun!