Tour de France: Geraint Thomas yn aros mewn melyn

Tour Image copyright Reuters
Image caption Disgynnodd Mark Cavendish ar ôl gwrthdrawiad gyda Peter Sagan yn agos at ddiwedd y cymal

Mae'r Cymro Geraint Thomas wedi cadw'r crys melyn ar ddiwedd pedwerydd cymal y Tour de France.

Disgynnodd Thomas o fewn 3km i'r diwedd, sy'n golygu na fydd yn colli amser yn erbyn ei gystadleuwyr, ond fe orffenodd y ras yn ddiogel gyda'i dîm.

"Rwy'n iawn, rwy'n iawn", meddai pan ofynnwyd iddo a oedd wedi cael anaf.

Fe orffennodd y ras mewn anrhefn wrth i Mark Cavendish ddisgyn yn ddramatig ar ôl gwrthdaro gyda Peter Sagan. Cafodd Sagan ei wahardd rhag gweddill y ras wedi diwedd y cymal.

Enillydd y cymal oedd y Ffrancwr, Arnaud Demare.

Image copyright Reuters
Image caption Y seiclwr o Ffrainc, Arnaud Demare groesodd gyntaf i gipio'r cymal
Image copyright Reuters

Gorffennodd Geraint Thomas ddau funud ar ôl yr enillydd, ond mae'n cadw'r crys melyn gan fod pawb yn cael yr un amser os oes damwain ddifrifol ar ddiwedd ras.

Bydd Thomas yn dechrau'r pumed cymal ar y brig, gyda Chris Froome yn parhau'n ail.

Tabl y Tour de France wedi pedwar cymal

1. Geraint Thomas (Prydain/Team Sky) 14:54'25"

2. Chris Froome (Prydain/Team Sky) +12 eiliad

3. Michael Matthews (Awstralia/Sunweb) +12 eiliad

4. Edvald Boasson Hagen (Norwy/Dimension Data) +16 eiliad

5. Pierre Latour (Ffrainc/AG2R) +25 eiliad

Straeon perthnasol