Sir Gaerloyw yn curo Morgannwg o 10 wiced

Norwell Image copyright Getty Images
Image caption Cipiodd Liam Norwell chwe wiced wrth i Gaerloyw lorio Morgannwg

Mae Morgannwg wedi colli'n drwm yn erbyn Sir Gaerloyw ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Roedd hi'n ail fatiad didrafferth i Gaerloyw wrth iddyn nhw gyrraedd y targed o 135 i ennill y gêm heb golli wiced.

Yn gynharach roedd Morgannwg i gyd allan am 158, Andrew Salter (31), Graham Wagg (30) a Chris Cooke (23 heb fod allan) oedd y prif sgorwyr.

Mewn ymateb sgoriodd Cameron Bancroft a Chris Dent 137-0 i gipio buddugoliaeth o 10 wiced a hynny ar yr ail o bedwar diwrnod o chwarae.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Morgannwg wedi colli tair gêm yn olynol.

Sir Gaerloyw v Morgannwg: Pencampwriaeth y Siroedd

Morgannwg 117 & 158 - Salter 31; Norwell 6-38

Sir Gaerloyw 141 & 137-0 - Dent 68*, Bancroft 62*

Sir Gaerloyw (19 pwynt) yn curo Morgannwg o 10 wiced.

Straeon perthnasol