Galw am recriwtio 'helwyr pedoffiliaid' i helpu'r heddlu

cyfrifiadur Image copyright iStock

Mae galwadau i roi mwy o rôl i "helwyr pedoffiliaid" wrth i'r awdurdodau geisio taclo troseddau rhyw ar-lein yn erbyn plant.

Mae un grŵp sydd yn esgus bod yn blant ac yn aros i bedoffiliaid gysylltu â nhw yn dweud fod ganddyn nhw dros 100 o achosion posib wedi eu cofnodi.

Ond yn ôl y Swyddfa Gartref a'r heddlu mae'n amhriodol i aelodau o'r cyhoedd wneud gwaith cudd.

Yn hytrach, maen nhw'n dweud y dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r awdurdodau.

'Cydweithio'

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert wrth raglen Week In Week Out BBC Cymru ei fod yn deall "rhwystredigaeth" y cyhoedd.

"Dwi'n deall, gyda hyn a llawer o fathau eraill o drosedd neu ymddygiad gwrth-gymdeithasol, bod amynedd weithiau'n beth prin ac fe allai ddeall pam bod pobl eisiau bwrw ati," meddai.

"Beth d'yn ni ddim yn gwybod yw faint o droseddwyr posib sydd wedi dianc gan nad yw'n cael ei wneud yn iawn, neu wedi cerdded yn rhydd am nad oedd y peth wedi dal dŵr yn y llys, felly mae'n gwestiwn o gydbwysedd.

"Y neges yw beth am weithio gyda'n gilydd."

Image copyright Thinkstock

Beth yw "grŵp helwyr"?

  • Grŵp o oedolion sydd heb eu rheoleiddio, sydd yn mynd ar-lein yn esgus bod yn blant dan oed;
  • Mae'r rhan fwyaf yn mynd i ystafelloedd sgwrsio oedolion ac yn aros i bedoffiliaid gysylltu â nhw;
  • Maen nhw'n honni eu bod nhw'n cael llwyth o geisiadau am gynnwys rhywiol;
  • Mae'r heddlu'n dweud eu bod yn pryderu am rai o'r tactegau sy'n cael eu defnyddio, gan gynnwys postio fideos ar-lein pan maen nhw'n dal rhywun.

Dywedodd Mr Cuthbert ei fod yn barod i godi'r mater ag uwch swyddogion plismona eraill.

"Wrth gwrs mae goblygiadau o ran hyfforddi, byddai'n rhaid ei gynllunio a'i wneud yn y ffordd iawn ond o ran yr egwyddor, dwi'n meddwl mai dyma'r ffordd ymlaen," meddai.

Ers mis Rhagfyr 2016 mae saith o bedoffiliaid yn ardal Heddlu Gwent wedi cael eu herlyn gyda chymorth grwpiau o'r fath.

Roedd Jason Benger, 48, Ivor Gifford, 92, Ian Rothery, 53, Alan Mullen, 67, Carl O'Hehir, 27, Jamie Nicholas, 22, a Christopher Lane, 24, i gyd wedi anfon negeseuon rhywiol i bobl roedden nhw'n meddwl oedd yn ferched dan oed.

Cafodd Bernard Merrells, 52, o Glydach, Abertawe hefyd ei ddedfrydu, ac mae achosion gyda grwpiau hela pedoffiliaid eraill yn parhau i gael eu clywed.

'Lle i guddio'

Mae un grŵp, Petronus, yn cynnwys rhieni sy'n defnyddio apiau i sgwrsio â throseddwyr posib.

Dywedodd un fam oedd am aros yn ddienw ei bod hi wedi dechrau hela pedoffiliaid oherwydd bod rhywun wedi ceisio meithrin perthynas â hi pan oedd hi'n 15 oed.

Byddai'r ymdrechion yn "beth da", meddai, petai'n gallu arbed bywyd un plentyn yn unig.

Dywedodd aelod arall, cyn swyddog heddlu a rhywun gafodd eu cam-drin yn rhywiol pan yn blentyn, mai'r bwriad oedd "gwneud hi'n llawer anoddach i'r dynion yma deimlo'n gyfforddus ar y we".

Image copyright iStock
Image caption Mae rhai helwyr pedoffiliaid yn siarad â throseddwyr posib drwy apiau

"Cyn y rhyngrwyd os oeddech chi'r math o ddyn oedd yn targedu plant mwy na thebyg byddai'n rhaid i chi gael eich hun mas yna, mas o'r tŷ i gyfarfod plant wyneb i wyneb - roedd hynny'n golygu risg o gael eich dal, ond mae'r rhyngrwyd wedi cael gwared â hynny.

"Mae'n fywyd dwbl i lawer o'r dynion hyn, rhan o'r cyffro... ond mae'n hollol anghyfreithlon ac mae'n targedu plant bregus."

Dyw'r grŵp ddim yn beirniadu'r heddlu - maen nhw'n dweud eu bod yn hwyluso'r achosion sydd wedi eu pasio iddyn nhw - ond mae aelodau hefyd yn honni nad oes gan swyddogion yr adnoddau sydd eu hangen i wneud y gwaith cudd cyson.

Mae'r heddlu yn dweud eu bod wastad yn ymateb i honiadau, ac y dylai grwpiau adael iddyn nhw wneud yr ymchwiliadau cudd.

Tactegau

Mae grwpiau gwahanol yn defnyddio tactegau gwahanol, gyda rhai yn ffilmio ymgyrchoedd a'u darlledu'n fyw ar gyfryngau cymdeithasol.

Pan gafodd Christopher Lane, 24, ei dargedu ger ei dŷ yn y Coed Duon, cafodd ei deulu cyfan eu dal ar gamera.

Cafodd y fideo ei wylio dros 10,000 o weithiau a dywedodd ei rieni, gan gynnwys ei fam oedd yn y gwely a chanser, fod eu cartref wedi cael ei dargedu.

Ychwanegodd y teulu eu bod wedi dychryn gormod i aros yn y tŷ roedden nhw wedi bod ynddi ers 26 mlynedd, a'u bod bellach wedi symud i leoliad dirgel.

Image caption Mae llai o siawns i bedoffiliaid gael eu dal wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd i geisio cysylltu â phlant, yn ôl rhai

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Jonathan Drake, sydd yn arwain Ymgyrch Netsafe i daclo ecsploetiaeth plant ar-lein, eu bod wedi "buddsoddi'n sylweddol".

Yn naw mis cyntaf yr ymgyrch cafodd 179 o bobl eu harestio am droseddau gan gynnwys bod â lluniau anweddus a cheisio meithrin perthynas, gyda 125 o blant yn cael eu gwarchod.

"Rydyn ni'n gweithio gydag awdurdodau ar draws y byd, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf," meddai.

"Byddwn yn parhau i wneud hynny tan ein bod ni'n siŵr fod plant yn saff ar-lein."

'Dim adnoddau'

Dywedodd cyn-bennaeth yr Asiantaeth Amddiffyn Ar-lein ac Ecsploetiaeth Plant, Jim Gamble fod y broblem yn "tswnami" oedd "bron yn ormod" i'w gyn gyd-weithwyr.

"Dwi'n amau fod dim mwy na 30 swyddog ar draws y DU sydd ar-lein y funud hon yn chwilio'n gudd er mwyn canfod y rheiny sydd fwyaf hawdd eu dal," meddai.

"Does ganddyn nhw ddim yr adnoddau i daclo hyn yn iawn neu hyd yn oed creu sefyllfa ble mae pobl wir yn meddwl ddwywaith.

"Mae'n rhaid i bobl fod yn anlwcus tu hwnt i gael eu dal ac mewn rhai achosion mae'n rhaid i ni wyrdroi'r sefyllfa."

Image caption Dyw Jim Gamble ddim yn credu fod gan yr heddlu ddigon o adnoddau

Dywedodd Mr Gamble y dylai'r awdurdodau geisio recriwtio 1,500 o wirfoddolwyr ar gyfer "rhaglen dditectif digidol arbennig", rhywbeth mae'n dweud fyddai'n costio llai na £2m y flwyddyn.

Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn dweud fod mwy na 30 o swyddogion yn ymwneud â chanfod pedoffiliaid, ond dydyn nhw ddim wedi datgelu'r union nifer.

Ni wnaeth y Swyddfa Gartref ymateb i awgrym Mr Gamble, ond fe ddywedon nhw eu bod wedi rhoi £30m yn ychwanegol i'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol rhwng 2015 a 2010 i daclo troseddau yn erbyn plant ar-lein.

"Mae amddiffyn plant yn bwnc sydd yn poeni llawer o bobl, yn amlwg, ond dylen nhw adael i'r heddlu a'r awdurdodau wneud eu gwaith hanfodol drwy beidio â chymryd y gyfraith i'w dwylo eu hunain," meddai llefarydd.

Bydd Week In Week Out ar BBC One Wales am 22:40 nos Fercher.